Ymweld ag Eryri

alt=

Llwybr Llanberis, Yr Wyddfa

Llwybr Llanberis yw’r llwybr hiraf a’r mwyaf graddol o’r chwe prif lwybr i gopa’r Wyddfa, sy’n cynnig golygfeydd arbennig o Gwm Brwynog, Llanberis a thraw dros y Fenai am Ynys Môn.

Mae’r llwybr yn dilyn trac trên Rheilffordd yr Wyddfa yn bennaf, ac yn mynd heibio gorsafoedd Hebron, ‘Halfway’ a Chlogwyn. Cyn agor y rheilffordd ym 1896, arferai ymwelwyr dalu tywyswyr i’w harwain i’r copa ar hyd y llwybr hwn ar gefn mulod.

Mae nodwedd ddaearegol hynod i’w weld oddi ar Lwybr Llanberis, sef synclin Clogwyn Du’r Arddu. Ffurfiwyd y synclin dros gyfnod o filoedd o flynyddoedd, wrth i’r ddaear symud a throi gwaddodion llorweddol yn haenau fertigol o graig.

Digwyddiadau Heriol – Côd Ymarfer Yr Wyddfa

Pellter: 9 milltir - 14.5Km (yno ac yn ôl)

Esgyniad: 3,199 troed - 975 metr

Amser: Tua 6 awr (yno ac yn ôl)

Gradd: Llwybr Anodd Llafurus

Dechrau/Diwedd: Rhes Victoria, Llanberis, oddi ar yr A4086. Rhes Victoria, Llanberis, oddi ar yr A4086.

Parcio: Meysydd Parcio yn Llanberis

Côd Post: LL55 4TD

Map Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)

Map bras yn unig yw hwn. Dylech ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r map Arolwg Ordnans perthnasol (gweler uchod) wrth gerdded y daith.

Manylion Llwybr

1. Dechreua Llwybr Llanberis ym mhen draw Rhes Victoria, sy’n arwain i lawr o’r gylchfan gyferbyn â gwesty’r ‘Royal Victoria’ ar ben deheuol y pentref.

2. Ewch trwy’r giât ger y grid gwartheg a dilynwch y ffordd serth. Bydd y ffordd yn mynd heibio Pen y Ceunant Isaf, ac yna trwy fuarth fferm. Ychydig ar ôl mynd trwy’r buarth, dilynwch y llwybr amlwg i’r chwith sydd wedi’i arwyddo ‘Llwybr Llanberis’.

Yn ystod rhan gyntaf y daith, cewch olygfa wych yn ôl am Chwarel Dinorwig ar lethrau Elidir Fawr. Safle anferth Pwerdy Trydan Hydro Dinorwig ydyw bellach – y pwerdy mwyaf o’i fath yn Ewrop. Cynhyrchir trydan trwy ryddhau dŵr o Lyn Marchlyn Mawr ar Elidir Fawr trwy dwneli tanddaearol i droi chwe tyrbin mewn ceudwll anferth yng nghrombil y mynydd. Ar ôl mynd trwy’r tyrbin mae’r dwr yn cael ei storio yn Llyn Peris cyn ei bwmpio yn ôl i fyny i Lyn Marchlyn Mawr i’w ddefnyddio eto.

Os ydych chi’n cerdded y llwybr hwn yn ystod tymor yr haf, rydych yn siŵr o weld trên bach yr Wyddfa ar ei daith i fyny neu i lawr y mynydd. System rhac a phiniwn sy’n galluogi’r trên i ddringo’r mynydd, gan wthio’r cerbyd i fyny o’i flaen. Mae rhai o’r injans stêm dros gan mlwydd oed ac wedi bod yn dringo’r Wyddfa ers i’r rheilffordd agor am y tro cyntaf ym 1896!

3. Mae’r llwybr yn dringo’n raddol ac ymhen ychydig fe fyddwch yn mynd heibio adfail hen fwthyn ar y chwith i chi, a gorsaf Hebron islaw ar y dde. Yn y man, fe ddowch at giât fynydd.

4. O’r giât fynydd bydd y llwybr yn parhau i ddringo’n raddol yn gyfochrog â’r rheilffordd.

Ar y dde i chi, o’r chwith i’r dde, mae bryniau a chribau Moel Cynghorion, Foel Goch, Foel Gron a Moel Eilio. Islaw mae Cwm Brwynog, lle gwelir adfeilion hen ffermydd a thyddynnod hen gymuned glos a fu’n byw yno ar un adeg. Roedd teuluoedd Gwaun Cwm Brwynog yn denantiaid i Stâd y Faenol, Y Felinheli, a oedd hefyd yn berchen ar chwarel lechi Dinorwig. Gweithiai llawer o’r dynion yn y chwarel yn ystod yr wythnos, yn ogystal â chadw ychydig o anifeiliaid ar y tyddyn.

Roedd yng Ngwaun Cwm Brwynog bump ar hugain o gartrefi, ond dim ysgol, na siop, na thafarn, a dim trydan na ffôn – ond roedd yno gapel! Mae gweddillion Capel Hebron i’w gweld dros eich ysgwydd dde, yr ochr draw i’r rheilffordd a chwt Gorsaf Hebron.

Cyn adeiladu’r capel cynhaliwyd gwasanaethau crefyddol a’r Ysgol Sul ar ffermydd lleol, ond wrth i aelodau’r Ysgol Sul gynyddu daeth y ffermydd yn rhy fach. Adeiladwyd y capel ym 1835 ac yn ei anterth roedd 78 o aelodau. Y capel oedd calon y gymuned unigryw hon ac yno y cynhaliwyd pob math o ddigwyddiadau cymdeithasol.

Yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif dechreuodd y teuluoedd symud o’r cwm, a fesul un gadawyd y tyddynod yn wag. Erbyn canol yr ugeinfed ganrif roedd cymuned Gwaun Cwm Brwynog wedi chwalu, a’r adeiladau wedi eu gadael i’r hin benderfynu ar eu ffawd.

5. Yn y man fe fyddwch yn mynd o dan bont y rheilffordd.

6. Wedi mynd o dan y bont bydd y llwybr yn parhau i ddringo’n raddol gyda’r rheilffordd ar y chwith i chi. Yn y man, byddwch yn pasio Tŷ Hanner Ffordd, lle mae lluniaeth ar gael yn ystod tymor yr haf. O’r fan hon ymlaen bydd y llwybr yn dechrau dringo’n fwy serth.

Wedi mynd heibio Tŷ Hanner Ffordd fe welwch gopaon Mynydd Drws y Coed a’r Garn trwy Fwlch Cwm Brwynog ar y dde i chi.

7. Yn y man fe ddowch at waelod Allt Moses, lle mae’r llwybr yn fforchio. Cadwch i’r chwith a dilyn y llwybr sy’n dringo i fyny llethrau Llechog.

Arferai’r llwybr i’r dde gael ei ddefnyddio i gyrraedd yr hen weithfeydd copr ar lethrau Clogwyn Coch, ond bellach mae’n cael ei ddefnyddio i gyrraedd Clogwyn Du’r Arddu. Hon, yn ôl y sôn, yw’r graig ddringo anoddaf yng Nghymru!

Wrth ddringo i fyny Allt Moses fe welwch Lyn Du’r Arddu, a Maen Du’r Arddu ger y lan. Yn ôl y chwedl, os bydd rhywun yn treulio noson dan y faen, erbyn y bore bydd unai’n fardd neu’n wallgof!

8. Ar ben uchaf Allt Moses byddwch yn mynd o dan bont y rheilffordd. Wedi i chi fynd o dan y bont, daw Cwm Glas Bach i’r golwg islaw ar y chwith. Cymerwch ofal ar y rhan hwn.

Cwm Hetiau yw’r enw lleol ar y cwm hwn. Pan fyddai ymwelwyr Fictoraidd yn teithio ar y trên agored byddai’r gwynt yn cipio eu hetiau oddi ar eu pennau ac i lawr â nhw i waelod Bwlch Llanberis. Byddai plant lleol yn mynd â chasglu’r hetiau ar y gwaelod a’u gwerthu i ymwelwyr yn Llanberis!

9. Ar ôl Cwm Glas Bach mae’r llwybr yn dringo’n serth i fyny llethrau Carnedd Ugain gyda Chlogwyn Coch ar y dde i chi. Byddwch yn ofalus ar y rhan yma o’r llwybr, a pheidiwch byth â cherdded at hyd traciau'r rheilffordd. Yn y man fe ddowch i Fwlch Glas.

10. Ym Mwlch Glas, mae maen hir sy’n nodi’r man lle mae Llwybr Pyg a Llwybr y Mwynwyr yn ymuno â Llwybr Llanberis. Dros eich ysgwydd dde, yr ochr draw i’r rheilffordd, fe welwch Lwybr Cwellyn yn codi o Fwlch Cwm Brwynog ac yn croesi’r rheilffordd i ymuno â Llwybr Llanberis, sydd hefyd wedi'i farcio â maen hir. Rydych yn awr ar y rhan olaf o’ch taith i gopa’r Wyddfa. Wrth gerdded ar gyflymder hamddenol, gallwch ddisgwyl bod ar y copa ymhen rhyw chwarter awr.

Oddi yma, cewch olygfa wych i lawr am Gwm Dyli ar y chwith i chi gyda’i lynnoedd, Llyn Glaslyn a Llyn Llydaw. Ar ochr chwith y cwm fe welwch grib finiog Crib Goch sy’n ffurfio rhan o bedol enwog yr Wyddfa.

O’r copa ar ddiwrnod clir, cewch eich gwobrwyo â golygfeydd anhygoel - mae’n bosib gweld 18 o lynnoedd ac 14 copa dros 914m (3000 troedfedd). Weithiau, gallwch hyd yn oed weld mor bell â’r Iwerddon, Ynys Manaw ac Ardal y Llynnoedd.

11. Ar eich ffordd i lawr o’r copa, ymhen ychydig ar ôl pasio maen hir Bwlch Glas cadwch i’r chwith - mae’r llwybr i’r dde yn dilyn pedol yr Wyddfa, ac yn arwain dros Garnedd Ugain a Chrib Goch.

Golygfa 360 Panorama

Copa'r Wyddfa

  • Rheilffordd yr Wyddfa

    Rheilffordd yr Wyddfa (© Kevin Richardson)

  • Llwybr Llanberis, Yr Wyddfa

    Llwybr Llanberis, Yr Wyddfa (© APCE)

  • Yr olygfa o Gopa'r Wyddfa

    Yr olygfa o Gopa'r Wyddfa (© Kevin Richardson)

Nodyn ar Ddiogelwch

Cyn mentro allan ar y mynyddoedd, darllenwch ein Cyngor ar Ddiogelwch ar y Mynydd.

Cofiwch

Er eich bod ym Mharc Cenedlaethol Eryri, cofiwch fod y llwybr yn croesi tir fferm a phori preifat Hafoty Newydd, Clogwyn y Gwin a Ffridd Uchaf, lle nad oes croeso i gŵn oni bai eu bod ar dennyn.

Ar eich ffordd i'r copa fe welwch dystiolaeth o waith adnewyddu llwybrau hanfodol a wneir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Cadwch at y llwybr os gwelwch yn dda er mwyn atal erydu pellach.