Ymweld ag Eryri

Cader Idris o Foel Caerynwch

alt=

Llwybrau Hamddenol

Yr hyn sy’n dda am y llwybrau hamdden yma yw eu bod i gyd yn gymharol wastad gyda ychydig neu ddim graddiant. Gallwch gerdded rhannau o’r llwybrau neu orffen y daith gyfan-mae fyny i chi. Ac eithrio Llwybr Mawddach, mae’n bosib cwblhau y llwybrau hawdd yma mewn ychydig oriau gan roi cyfle i chwi deithio o amgylch Eryri gyda gweddill eich amser. Cofiwch wisgo esgidiau cyfforddus.

Llyn Tegid, Y Bala

Craig y Fron, Y Bala - Llwybr Hamddenol

Wrth feddwl am Barc Cenedlaethol Eryri, fe ddychmygwn foelydd a chopaon geirwon, ond bydd y daith hon yn dangos i chi rywfaint o dirwedd mwynach, glasach yr ardal. Mae'r daith yn cynnwys dringfa raddol ar y dechrau sy'n gwastatáu ac yn disgyn yn raddol ar hyd tir pori.

Pellter: Tua 3 milltir - 4.5 km

« mwy o fanylion
Coed Graigddu

Coed Graigddu - Taith Hamddenol

Y byrraf o ddwy daith yn yr ardal, mae’r gylchdaith yma yn dilyn llwybrau coedwig tawel. Mi fyddwch yn pasio rhaeadr Pistyll Gwyn a golygfeydd anhygoel o dde Eryri ar eich ffordd. Gall y tirwedd fod yn hegar ar rai adegau felly gwnewch yn siwr eich bod yn gwisgo esgidiau addas.

Pellter: 3 milltir - 5 km (taith gylch)

« mwy o fanylion
Dolwyddelan

Cwm Penamnen, Dolwyddelan - Llwybr Hamddenol

Mwynhewch y daith hyfryd hon trwy’r goedwig i fyny i Gwm Penamnen ble y gallwch fwynhau golygfeydd bendigedig o fynyddoedd Eryri.

Pellter: 2 milltir - 3.5 Km

« mwy o fanylion
Llan Ffestiniog

Llwybr Rhaeadr Cynfal - Llwybr Hamddenol

Mae Rhaeadr Cynfal, sydd i’r de o Lan Ffestiniog, yn cysgodi yn nyffryn coediog yr Afon Cynfal, ac mae’r ceunant arbennig hwn o fewn Gwarchodfa Natur Ceunant Cynfal.

Pellter:

« mwy o fanylion
Dyffryn Maentwrog

Llwybrau Dyffryn Maentwrog a Llyn Mair - Llwybr Hamddenol

Mae Rhwydwaith Llwybrau Dyffryn Maentwrog a Llyn Mair yn ymestyn dros ardal eang ac yn cynnwys dros 30km o lwybrau cerdded. Sefydlwyd y rhwydwaith er eich mwynhad chi ym 1989 gan bartneriaeth o dirfeddianwyr yn yr ardal ac mae'r postiau rhifo ar bob cyffordd ar y llwybrau yn gymorth ichi weld lle yr ydych ar y map.

Pellter: Rhwydwaith o lwybrau dros 30km yn ei chyfanrwydd

« mwy o fanylion
Tomen y Mur, Trawsfynydd

Tomen y Mur, Trawsfynydd - Llwybr Hamddenol

Gan ddechrau o bentref Trawsfynydd, mae’r gylchdaith hon yn eich harwain o lannau’r gronfa ddŵr, Llyn Trawsfynydd, ar hyd tir ffermio i’r nodwedd mwyaf arbennig ar y daith, sef caer Rufeinig Tomen y Mur.

Pellter: 4 milltir - 6.5 km

« mwy o fanylion

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)