Ymweld ag Eryri

Harlech Castle

alt=

Safleoedd Hanesyddol

Mae'r cestyll a adeiladwyd gan dywysogion rhyfelgar yn ystod y 13eg ganrif yn cynnwys Castell y Bere (ger Abergynolwyn), Castell Dolwyddelan a Chastell Dolbadarn (Llanberis). Fe'u cipiwyd gan y Normaniaid wrth i Edward 1 gychwyn ar ei goncwest o Gymru tua diwedd y ganrif.

Adeiladwyd Castell Harlech yn ystod y 13eg ganrif, ac mae'n debyg mai'r castell hwn, o blith holl gestyll Brenin Edward 1af, sydd yn y lleoliad mwyaf trawiadol. Adeiladwyd ei gaerau cadarn yn Harlech, Conwy a Chaernarfon a Biwmares (Ynys Môn) er mwyn darostwng tiroedd gogledd Cymru a oedd newydd eu goresgyn.

Castell Conwy

Castell Conwy

Adeiladwyd y castell hwn rhwng 1283 a 1287, yn seiliedig ar ddyluniad y pensaer brenhinol, James o St George. Mae nodweddion ysblennydd Castell Conwy wedi goroesi, gan gynnwys wyth tŵr crwn, neuadd fawr, ystafelloedd y brenin a chapel brenhinol. Adeiladwyd muriau tref Conwy ar yr un pryd â’r castell ac maent yn ymestyn am 1.3 km o amgylch y dref. Dywedir mai Conwy yw’r enghraifft orau o fwrdeistref gaerog drwy Brydain.

« mwy o fanylion

Castell Dolwyddelan

Castell Dolwyddelan

Yn ôl traddodiad, credir mai yng Nghastell Dolwyddelan y ganed Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) yn 1173, ond mae'n debyg nad adeiladwyd y tŵr sgwâr hyd y 1220au. Ar ddiwedd y G15, daeth Maredudd ap Ieuan, un o hynafiaid teulu Wynn o Wydir i'r castell ac ef fu'n gyfrifol am atgyfnerthu cyfraith a threfn yn lleol. Yn ddiweddarach, bu'r castell yn destun ysbrydoliaeth ar gyfer artistiaid y Cyfnod Rhamantaidd.

« mwy o fanylion

Cymer Abbey

Abaty Cymer

Ar ddiwedd y 12fed ganrif, ymsefydlodd Urdd Sistersaidd y Mynaich Gwynion trwy Gymru benbaladr. Saif yr unig un o’u habatai sydd ar ôl yn Eryri yng Nghymer yn Llanelltyd, ar gefnen gerllaw hen wely’r Afon Mawddach. Fe’i sefydlwyd yn 1198-9 dan nawdd Maredudd ap Cynan, ŵyr i Owain Gwynedd.

« mwy o fanylion

Tomen y Mur

Tomen y Mur

Un o’r ardaloedd archaeolegol mwyaf diddorol yn Eryri yw’r safle Rhufeinig, ymhlith eraill, o amgylch Tomen y Mur ger Trawsfynydd. Pren oedd y gaer gyntaf a godwyd a thua deng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, codwyd un lai mewn cerrig. Gorwedd y gaer ar gefnen isel a golygfeydd ysblennydd o’r wlad o’i chwmpas a maes o law defnyddiwyd yr un lleoliad strategol gan y Normaniaid hwythau i godi eu castell pridd. Yn ôl chwedl Math fab Mathonwy yn y Mabinogi, hen lys o’r Oesoedd Tywyll oedd Tomen y Mur, ond nid yw hyn eto wedi’i gadarnhau’n archaeolegol.

« mwy o fanylion

Castell Carndochan

Castell Carndochan

Saif y castell hwn ar fryn creigiog, gan daflu ei olygon dros waelodion Dyffryn Lliw. Mae’r cysylltfur adfeiliedig yn amgáu sylfeini twr sgwâr a dau dwr hanner cylch neu grwn ac mae yma hefyd dwr hirsgwar gyda thalcen bwa. Ni does dogfennau i dystio i na chodi na defnyddio’r castell hwn, ond cydnabyddir yn weddol eang mai stamp Llywelyn ab Iorwerth sydd arno oherwydd tebygrwydd y twr bwa i nodweddion tebyg yng Nghastell y Bere a Chastell Ewlo yn y Fflint.

« mwy o fanylion

Castell Caernarfon

Castell Caernarfon

Dechreuwyd adeiladu’r castell mawreddog hwn yn 1283, yn dilyn y goresgyniad Edwardaidd dros Dywysogaeth Gwynedd. Saif y castell presennol ar yr un un safle â chastell cynharach a gomisiynwyd gan Hugh o Avanches, Iarll Caer yn y 1090au. Yn 1294, arweiniodd Madog ap Llywelyn, perthynas bell i Llywelyn ap Gruffudd, wrthryfel Gymreig yn erbyn Edward I a gwnaethpwyd difrod sylweddol i Gastell Caernarfon yn ystod y gwrthryfel hwn, gan arwain at waith ail-adeiladu’r castell yn y cyfnod 1296-c.1327.

« mwy o fanylion

Castell Harlech

Castell Harlech

Adeiladwyd Castell Harlech gan y Ffrancwr, James o St George, fel rhan o ymgyrch Edward I i oresgyn Tywysogaeth Gymreig Gwynedd yn ystod yr Oesoedd Canol. Dechreuwyd adeiladu Castell Harlech yn 1283, yn ystod ail ymgyrch Edward I yn erbyn Tywysogaeth Gwynedd, gan ei gwblhau yn 1289. Yn 1286, yn ystod y gwaith adeiladu, cyflogwyd 950 o weithwyr ar safle Castell Harlech.

« mwy o fanylion

Castell Cricieth

Castell Cricieth

Saif Castell Cricieth ar fryn uwchben Bae Tremadog. Cwblhawyd ward mewnol y castell, gan gynnwys dau dŵr siap D bob ochr i’r mynediad, cyn marwolaeth Llywelyn ab Iorwerth yn 1240. Adeiladiwyd y ward allanol, yn cynnwys tri thŵr petryal, yn nes ymlaen yn y G13, pan ddaeth Castell Cricieth yn un o gartrefi llys symudol Tywysogion Gwynedd.

« mwy o fanylion

Castell y Bere

Castell y Bere

Dechreuwyd adeiladu Castell y Bere yn 1221 gan Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr), ar diroedd a gipiwyd gan ei fab anghyfreithlon, Gruffudd ap Llywelyn. Y bwriad oedd amddiffyn Meirionnydd rhag ymhonwyr i’r oruchafiaeth yng Ngwynedd, gan gynnwys Gruffudd.

« mwy o fanylion

Castell Dolbadarn

Castell Dolbadarn

Comisiynodd Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) adeiladu Castell Dolbadarn rhyw dro cyn 1230. Lleolir y castell ar safle strategol ar domen uwchben Llyn Padarn yn Llanberis, ac oddi yma, gellid gwarchod Eryri gan unrhyw fygythiad o gyfeiriad Bwlch Peris. Roedd y ffordd drwy Fwlch Peris yn brif heol drwy Gymru, ac felly roedd safle Castell Dolbadarn yn galluogi’r Tywysogion i reoli a goruwchwylio symudiadau trwy ogledd Cymru gyfan.

« mwy o fanylion

Yr Ysgwrn

Nid ffermdy Cymreig cyffredin yw'r Ysgwrn. Un o brif resymau prynwyd y lle gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym mis Mawrth 2012 yw'r hanes a symboliaeth mae'r lle yn gynrychioli.

« mwy o fanylion