Ymweld ag Eryri

Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa

alt=

Cynllun Mosaig yn Nghymru

Roedd Mosaig yn gynllun cenedlaethol yn cael ei arwain gan, ‘Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol’, gyda’r bwriad i adeiladu cysylltiadau cynaliadwy rhwng cymunedau lleiafrifol ethnig â Pharciau Cenedlaethol a Chymdeithas Hosteli Ieuenctid.

Cafodd ei ddatblygu mewn ymateb i dystiolaeth mai dim ond 1% o bobl o gefndiroedd lleiafrifol ethnig oedd yn ymweld â’r Parciau Cenedlaethol – er bod 10% o boblogaeth y wlad o gefndir lleiafrifol ethnig. Mae pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn wynebu rhwystrau penodol sy’n eu rhwystro rhag dod i’r Parciau Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys rhwystrau ymddangosiadol megis anwybodaeth am hawliau mynediad; rhwystrau cymdeithasol – ofn peidio cael croeso; a rhwystrau eraill megis diffyg trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy.

Mae Mosaig wedi gweithio i leihau'r rhwystrau hyn - roeddynt eisiau sicrhau bod pawb yn ymwybodol o beth sydd gan y Parciau Cenedlaethol i’w gynnig a chael cyfleoedd cyfartal i’w mwynhau.

Pen y Pass

Pen y Pass (© APCE)

Roedd Mosaig yn gweithio drwy gefnogi arweinwyr dylanwadol mewn cymunedau lleiafrifol ethnig i ddod yn “Bencampwyr Cymunedol” yn hybu’r Parciau Cenedlaethol a Hosteli Ieuenctid yn eu cymunedau.

Roedd Mosaig hefyd yn cynorthwyo Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol i wneud newidiadau i’w hawdurdodau fyddai’n eu helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd o gymunedau du ac ethnig lleiafrifol.

Partneriaeth oedd ‘Mosaig yng Nghymru’ rhwng ‘Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol’, Cymdeithas Hosteli Ieuenctid a'r Tri Awdurdod y Parciau cenedlaethol yng Nghymru: Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro. Cafodd y cynllun ei gefnogi gan y Loteri Fawr - Rhaglen Pobl a Llefydd, Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol a Chymdeithas Hosteli Ieuenctid.

Mae geiriau Zobia Zaman, Pencampwraig Gymunedol Bannau Brycheiniog yn ysbrdoliaeth i ni gyd:
“Wrth eistedd mewn hostel ieuenctid yn Llanberis yn gwrando ar ganwr gwerin lleol yn adrodd storiâu am dylwyth teg Cymreig, mi gofiais am fy nain yn ôl mewn pentref bach ym Mhacistan. Roedd ei storiâu hi mor debyg, am y tylwyth teg, ysbrydion y drwg a’r da. Fe wnaeth i mi sylweddoli ein bod fel dynolryw yn rhannu’r un natur a bod yr holl ragfarnau am liw ein croen, iaith a chrefydd yn eilradd. Yn ystod yr ymweliadau yma i’r Parciau Cenedlaethol, fe welais bobl o gefndiroedd a diwylliannau hollol wahanol yn dod yn gyfeillion ac yn gofalu a helpu ei gilydd. Yn y dyddiau sydd ohoni gyda bygythiadau o hiliaeth a gwahaniaethau diwylliannol o’n cwmpas, dod a phobl at ei gilydd yw un o brif lwyddiannau Mosaig. Dwi’n credu fod gennym wahanol ffenestri o’n cwmpas. Unwaith y mae’r rhain wedi cael eu hagor maent yn gallu datgelu be sydd ar yr ochr arall. Mae Mosaig wedi agor y drysau’n llwyddiannus rhwng y gymuned a’r Parciau Cymdeithasol.”

Er bod Cynllun Mosaig bellach wedi dod i ben mae’r Awdurdod yn awyddus i barhau’r cysylltiad gyda’r Pencampwyr Cymunedol a chymunedau ethnig lleiafrifol.

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)