Ymweld ag Eryri

Beddgelert

alt=

Ogwen

Sefydlwyd Cwm Idwal fel Gwarchodle Natur gan y Bwrdd Gwarchodle Natur yn y flwyddyn 1954. Estyna’r warchodle o 1,200 hyd 3,000 troedfedd uwchlaw lefel y môr (365-914 medr). Mae’r cwm o ddiddordeb arbennig i ddaearegwyr a daearyddwyr. Tua deng mil o flynyddoedd yn ôl, wedi dadmer y rhewlifiad a orchuddiodd y Cwm yn ystod oes yr iâ, ffurfiwyd pedair rhes o foelydd ar hyd waelod y Cwm.

Mae Llyn Idwal yn cynnal nifer o blanhigion unigryw a nodweddiadol o lynnoedd uchel, ac mae’r Twll Du ei hun yn gyfoeth o flodau Arctig-Alpaidd sydd fel arfer i’w canfod yn ucheldiroedd Gwlad yr Ia. Bu’r warchodle ac mae’n parhau i fod, o bwysigrwydd mawr i addysg ac ymchwil gwyddonol yn ogystal a bod yn hafan i dwristiaid.

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)