Ymweld ag Eryri

Beddgelert

alt=

Y Llyn

“Nid oes weithfeydd i lenwi’r aberoedd â duwch ac â Gwenwyn, y mae Tryweryn a Dyfrdwy fel grisial, a Llyn Tegid fel môr o wydr”.

Trans. Sir O M Edwards, Cymru Vol 4, Page 13

Cadwraeth

Mae Llyn Tegid yn safle ecolegol bwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae wedi ei ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn Safle Ramsar (ardaloedd gwlyptir), ac yn Ymgeisydd am Ardal Gadwraeth Arbennig.

Gan fod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n rhedeg Llyn Tegid fel adnodd hamdden, mae’n bwysig ei fod yn sicrhau nad yw pwysau hamdden yn cael effaith andwyol ar gadwraeth y llyn. Mae’r Awdurdod yn sicrhau nad yw dŵr y llyn yn cael ei lygru trwy wahardd cychod pŵer rhag defnyddio’r llyn (ac eithrio cychod pŵer ag injan fechan at ddibenion achub neu injan drydan). Mae’r Awdurdod yn cydweithio’n agos â pherchnogion y tir o amgylch y llyn er mwyn ceisio lleihau’r cemegau sy’n cael eu rhoi ar y tir. Mae maetholion (cemegol yn aml) yn cael eu golchi i mewn i ddŵr y llyn, ac mae Algae Gwyrddlas yn ffynnu arno ac yn tyfu tua’r wyneb, gan rwystro golau naturiol rhag cyrraedd planhigion eraill y llyn.

Bala a Llyn Tegid

Bala a Llyn Tegid (© APCE)

Bywyd Gwyllt

Mae cyfoeth o fywyd gwyllt a phlanhigion yn byw yn Llyn Tegid a’r ardal o gwmpas. Mae Dyfrgwn yn byw ar ei hymylon, ac mae yma wyth rhywogaeth o falwod dŵr, yn cynnwys un o falwod dŵr prinnaf Ewrop, y falwen ludiog (Myxas glutinosa) sy’n bwydo ar algae ar gerigos yn y dŵr bas o amgylch y llyn.

Mae amryw o hwyaid i’w gweld yma hefyd, yn cynnwys y cotiar a’r hwyaden wyllt. Mae’r hwyaden bengoch a’r chwiwell yn treulio’r gaeaf yma, tra bod y gwyach fawr gopog yn defnyddio’r llyn fel man bridio.

Dros y blynyddoedd cofnodwyd 129 rhywogaeth o adar o amgylch Llyn Tegid, a rhai ohonynt yn rhai anghyffredin iawn fel y trochydd gwddfddu, elyrch bewick a’r pibydd gwyrdd.

Pysgod
Yn ogystal â’r Gwyniad, y pysgodyn unigryw y sonnir amdano uchod, mae 13 rhywogaeth arall o bysgod yn llechu yn Llyn Tegid. Mae rhai o’r rhywogaethau hyn yn cynnwys brithyll brown, penllwydion, penhwyaid, draenogiaid a gwrachennod. Mae’r llyn yn hynod o boblogaidd ar gyfer pysgota bras a physgotwyr i’w gweld yn aml ar hyd ei ymylon. Am fwy o fanylion ynghylch pysgota yn Llyn Tegid ewch i’r adran Pysgota.

Gwyniad (Coregonus lavaretus)
Mae Llyn Tegid yn gartref i fath unigryw o bysgodyn sef y Gwyniad (Coregonus lavaretus). Cafodd y pysgodyn bychan hwn, sy’n perthyn i’r pennog, ei ddal yn ôl yn y llyn pan y’i ffurfiwyd ar ddiwedd yr Oes yr Iâ diwethaf tua 14,000 o flynyddoedd yn ôl. Dim ond yn Llyn Tegid mae’r math hwn o bysgodyn yn bodoli, ond mae pysgod tebyg iddo yn yr Alban a Lloegr . Mae’r Gwyniad yn byw yn nyfnderoedd y llyn, hyd at 80 troedfedd i lawr ac yn bwydo ar blancton.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y pysgodyn hwn yn cael ei weini i ymwelwyr â’r Bala ar blât; ond erbyn heddiw, ni chaniateir pysgota am y Gwyniad. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n cydweithio â chyrff eraill sy’n astudio’r pysgodyn arbennig hwn ac wedi cymryd rhan mewn prosiectau i geisio eu sefydlu mewn llyn arall yn Eryri.

Afonydd

Mae tair prif afon yn llifo i mewn i Lyn Tegid sef Afon Dyfrdwy, Afon Llafar ac Afon Glyn. Er, yn ôl y sôn, nid yw dwr Afon Dyfrdwy yn cymysgu â dwr y llyn wrth iddi lifo trwyddo. Yn wir, mewn amodau tywydd penodol, ac o fan penodol ar Garth Fawr, dywedir y gellir gweld yr afon yn llifo trwy’r llyn gan gadw ei hunaniaeth.

Mae Afon Dyfrdwy yn tarddu ar lethrau’r Dduallt uwchben pentref Llanuwchllyn ac yn 70 milltir (110Km) o hyd. Mae cwrs yr afon yn llifo tua’r dwyrain o’r Bala, trwy Langollen a thros ac o dan draphont ddŵr Pontcysyllte Thomas Telford. Yna mae’n llifo tua’r gogledd i Gaer cyn llifo yn ôl dros y ffin i Gymru ac allan i’r môr mewn aber rhwng Cymru a phenrhyn Cilgwri.

Mae lefelau dŵr Llyn Tegid yn cael eu rheoli’n artiffisial gan Gynllun Rheoli Afon Dyfrdwy er mwyn ateb y galw am gyflenwad dŵr i ardaloedd gogledd orllewinol Lloegr. Yn agos iawn i’r man lle mae Afon Dyfrdwy yn gadael y llyn ar ei phen gogledd ddwyreiniol, mae llifddorau sy’n rheoli’r lefelau. Mae’r dŵr sy’n ormod yn ystod y gaeaf yn cael ei ddal yn ôl fel bod digon o ddŵr i ateb y galw yn ystod misoedd sychach yr haf pan fydd llif yr afon yn isel.

Capel Celyn

Wrth i’r galw am ddŵr yn ardaloedd Lerpwl a Chilgwri gynyddu, ym 1957 dechreuwyd ar y gwaith o greu cronfa ddŵr arall ar gwrs Afon Tryweryn, sy’n ymuno ag Afon Dyfrdwy nid nepell o’r man y mae’n gadael Llyn Tegid.

Wedi i’r senedd basio Mesur Tryweryn a oedd yn rhoi caniatâd i Gyngor Dinas Lerpwl brynu tir Cwm Celyn yn orfodol, crëwyd argae ar draws y cwm gan foddi pentref Capel Celyn. Yr oedd pentref Capel Celyn yn gymdeithas ddiwylliedig Gymraeg, gyda chapel a mynwent, ysgol, swyddfa bost, deuddeg o ffermydd a thir a oedd yn perthyn i bedair fferm arall. Roedd y datblygiad hwn yn un hynod o ddadleuol, a chreodd gynddaredd cenedlaethol, dicter a phrotestio. Ym mis Hydref 2005, ymddiheurodd Cyngor Dinas Lerpwl yn gyhoeddus am foddi’r cwm.

Daeareg

Ffurfiwyd Llyn Tegid ar ddiwedd Oes yr Iâ - tua 14,000 o flynyddoedd yn ôl.

Yn ystod Oes yr Iâ roedd ardal yr Arenig, sydd i’r gogledd orllewin o Lyn Tegid, o dan gannoedd, os nad miloedd o droedfeddi o rew ac roedd rhewlifoedd yn llifo oddi yno i bob cyfeiriad.

Mae Llyn Tegid yn gorwedd mewn dyffryn sy’n dilyn hen linell ffawt daearegol – Ffawt Bala, sef rhwyg yn y ddaear. Wrth i’r rhewlif basio drwy’r dyffryn erydwyd y creigiau bregus yn y ffawt – hyn oedd yn gyfrifol am greu llyn hynod o serth, sy’n gallu bod hyd at 43 metr (141tr) o ddwfn mewn mannau.

Wrth i’r rhew ddadmer roedd dyddodion a oedd yn y rhew yn cael eu gadael ar ôl. Ymhen amser, ffurfiwyd argae o ddyddodion (marian) a oedd yn rhwystro dŵr rhag llifo o’r dyffryn.

Yn fuan ar ôl Oes yr Iâ roedd y llyn yn llawer mwy nag ydyw heddiw; ond wrth i Afon Dyfrdwy dorri trwy’r marian gostyngodd lefel dŵr y llyn. Mae’n bosib bod y llyn, am gyfnod, wedi draenio trwy ddyffryn yr afon Wnion ar ben de orllewinol y llyn hefyd.

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)