Ymweld ag Eryri

Beddgelert

alt=

Dolgellau

Yn swatio ar odre Cader Idris ac ar lan yr afon Wnion, mae'r hen dref farchnad fechan hon yn ne'r Parc Cenedlaethol yn llawn hanes a diwylliant.

Dolgellau

Dolgellau (© APCE)

Tref hynafol

Arferai'r ardal y saif tref Dolgellau arni fod yn rhan o diriogaeth yr Ordoficiaid cyn iddynt gael eu gorchfygu gan y Rhufeiniaid tua 77-78 OC. Ond ni ddaeth pobl i fyw ar safle'r dref nes tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg, pan y'i sefydlwyd yn Faerdref, mwy na thebyg gan y tywysog Cadwgan ap Bleddyn - ac felly y bu nes teyrnasiad y Brenin Harri VII o Loegr ym 1485.

Mudiad y Crynwyr

Yn dilyn ymweliad gan George Fox, syflaenydd mudiad y Crynwyr ym 1657, trodd llawer o drigolion Dolgellau tuag at Grynyddiaeth. Gan nad oedd y Crynwyr yn fodlon tyngu llw o ffyddlondeb i'r brenin caent eu herlid yn ffyrnig, ac roedd y bygythiad o garchar yn gysgod parhaus uwch eu pennau. Ym 1686, oherwydd yr erledigaeth barhaus ymfudodd llawer o Grynwyr ardal Dolgellau i Bennsylfania dan arweiniad ffermwr lleol. Yno, gobeithient gael llonydd i ddilyn eu crefydd gyda'i gilydd mewn rhandir rhydd - ond stori arall yw honno...

Gwlân, Llongau ac Aur

Dros y canrifoedd mae Dolgellau wedi cael ei siâr o wahanol ddiwydiannau. Yn y ddeunawfed ganrif roedd y diwydiant gwlân yn ffynnu, ac yn sgil hynny roedd aber yr afon Mawddach, sy'n llifo i'r môr i'r gorllewin o Ddolgellau, yn brysur gyda llongau yn allforio cynnyrch gwlân, yn ogystal â da byw a llechi. Adeiladwyd llongau yn y cilfachau ar hyd yr aber gan ddefnyddio'r coed derw gerllaw, a defnyddiwyd rhisgl coed derw ar gyfer diwydiant arall yn yr ardal hefyd - sef trin lledr.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg bu rhuthr aur yn Nolgellau pan ganfuwyd gwythiennau aur yn y bryniau - ar un adeg roedd y diwydiant yn cyflogi 500 o fwynwyr. Y fwynfa aur mwyaf nodedig yw gwaith aur Clogau ym Mhontddu - aur o'r wythïen hon a ddefnyddiwyd i wneud modrwyau priodas y teulu brenhinol ers 1923. Ond nid i'r teulu brenhinol yn unig mae aur Clogau - mae gemwaith o'r aur hwn yn parhau i gael ei gynhyrchu heddiw ac maent ar gael mewn siopau gemwaith ledled y wlad.

Menter Treftadaeth Treflun Dolgellau

Un o nodweddion amlycaf trefn Dolgellau yw ei hadeiladau uchel o gerrig llwydion a llechen, a'i gwe o strydoedd cul. Mae dros 200 o adeiladau'r dref wedi eu rhestru, ac erbyn heddiw mae llawer o adeiladau hanesyddol y dref, rhai masnachol yn bennaf, yn wag ac mewn cyflwr gwael.

Er mwyn helpu i adfywio'r dref sefydlwyd Menter Treftadaeth Treflun Dolgellau, sef partneriaeth rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a CADW, corff archaeolegol/hanesyddol Cynulliad Cymru. Gyda chymorth ariannol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri bydd y fenter yn cynnig grantiau i berchnogion eiddo i atgyweirio ac adfer cymeriadau'r adeiladau, a dod â lloriau gwag yn ôl i ddefnydd. Nid adeiladau'n unig fydd yn cael sylw - bydd nodweddion hanesyddol mewn mannau cyhoeddus fel rheiliau a choblau yn cael eu hadfer hefyd. Amcan arall y fenter yw hyrwyddo ymwybyddiaeth o dreftadaeth y dref ac annog trigolion ac ymwelwyr i ymwneud mwy â'u treftadaeth ddiwylliannol.

Hamdden

Twristiaeth yw prif economi'r ardal erbyn heddiw - a 'does ryfedd gan fod gan yr ardal gyfleoedd hamddena di-ben-draw...

Cader Idris

Yn un o fynyddoedd mwyaf nodedig Eryri saif Cader Idris 893 metr uwch lefel y môr nid nepell o Ddolgellau. Mae tri phrif lwybr yn arwain i gopa'r mynydd a phob un yn amrywio o ran hyd, graddiant a thirwedd, sef Llwybr Pilin Pwn, Llwybr Minffordd a Llwybr Llanfihangel y Pennant. Cofiwch, os ydych am ddringo Cader Idris, byddwch yn gyfrifol a dilynwch ein cyngor ar ddiogelwch.

Llwybr Mawddach

Mae'r llwybr Mawddach yn arwain ar hyd hen wely rheilffordd y Great Western rhwng Dolgellau a Morfa Mawddach, ac yna'n cysylltu â phont reilffordd Abermaw. Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy'n berchen ar y llwybr ac yn ei reoli, ac mae'n boblogaidd iawn ymysg beicwyr, cerddwyr a defnyddwyr cadair olwyn.

Beicio Mynydd

Ychydig filltiroedd i'r gogledd o Ddolgellau mae Coed y Brenin, canolfan feicio mynydd o safon byd eang. Yn ogystal â thraciau beicio mynydd mae yno ddigonedd o weithgareddau awyr agored i'r teulu i gyd - o lwybrau cerdded i gwrs rhaffau yn uchel yn y coed.

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)