Ymweld ag Eryri

Cader Idris o Foel Caerynwch

alt=

Cwestiynau Cyffredin

Ga’ i fynd i unrhyw le yn y Parc Cenedlaethol?

Na. Tir preifat yw rhan fwyaf o’r tir yn y Parc Cenedlaethol. Gallwch ymweld â bron bobman trwy ddefnyddio’r rhwydwaith eang o lwybrau cyhoeddus. Hefyd, gallwch gerdded ar hyd ardaloedd eang o uwchdiroedd a thiroedd heb eu trin trwy’r hawliau tir agored. Mae’r Côd Cefn Gwlad yn rhoi cyngor i ymwelwyr a thirfeddianwyr ar sut i barchu, gwarchod a mwynhau cefn gwlad.

Faint o’r gloch y mae’r Parc ar agor, a faint yw’r gost i fynd i mewn?

Mae Parc Cenedlaethol Eryri ar agor trwy’r amser, ac nid oes dim cost i ddod i mewn i’r Parc.

Lle gaf i fynd â’m ci yn y Parc Cenedlaethol, ac a oes rhaid iddo fod ar dennyn?

Ein cyngor cyffredinol i holl berchnogion cŵn yw i sicrhau bod eich ci ar dennyn trwy’r amser pan fyddwch yn agos i dda byw.

Mae cefn gwlad yn lle gwych i ymarfer eich ci ond dylid gwneud hynny mewn modd cyfrifol ac mewn man lle nad yw’ch ci yn gallu poeni neu fod yn beryglus i dda byw, bywyd gwyllt na phobl eraill (neu gŵn eraill). Mae’n drosedd caniatáu i’ch ci ymosod ar neu erlid da byw dan y Ddeddf Cŵn (Gwarchod Da Byw) 1953, a chaiff ffermwr saethu yn gyfreithlon unrhyw gi sy’n ymddwyn yn y modd yma heb roi rhybudd nac unrhyw ffurf o iawndal i’r perchennog.

Mae dau brif fath o ddarpariaeth mynediad ar gael i’r cyhoedd o fewn y Parc Cenedlaethol, sydd â rheolau ychydig yn wahanol mewn perthynas â chŵn. Un yw ‘tir mynediad’ a ddynodwyd dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CGaHT) 2000 ac sydd wedi eu marcio ar fapiau AO mewn lliw hufen wedi ei amgylchynu â llinell frown. Datgana hyn bod rhaid i chi roi eich ci ar dennyn tra byddwch ar dir mynediad rhwng Mawrth y 1af a Gorffennaf y 31ain. Y rheswm am hyn yw er mwyn osgoi aflonyddu da byw - defaid a gwartheg yn bennaf, ond gall cyfyngiadau lleol eraill fod yn weithredol ar gyfer adar sy’n nythu ar y ddaear neu gymunedau o blanhigion, neu nythfa benodol o drychfilod (fel glöyn byw prin).

Yr ail fath o fynediad i gefn gwlad yw trwy ddefnyddio’r rhwydwaith o Hawliau Tramwy Cyhoeddus fel Llwybrau Cyhoeddus. Mae’r ddeddfwriaeth hon ychydig yn wahanol gan mai ‘dan reolaeth glos’ y dylai eich ci fod, ac nid yn benodol ar dennyn. Fodd bynnag, mae’r un rheolau yn berthnasol. Hynny yw – peidiwch â gadael i’ch ci erlid nac ymosod ar dda byw na bod yn boen i eraill.

Efallai nad yw perchnogion cŵn yn ymwybodol o ba mor beryg y gall gwartheg fod, yn enwedig pan fydd ganddynt loeau bach. Gall cŵn ddeffro greddf hynod o amddiffynnol mewn gwartheg ac fe gynghorwn yn gryf i aelodau’r cyhoedd sydd â chŵn i’w hosgoi neu gadw’n ddigon pell ohonynt pryd bynnag y bydd hynny’n bosib. Os cewch eich erlid, rhyddhewch dennyn y ci ar unwaith a chanolbwyntiwch ar eich diogelwch eich hun. Mae’n debygol iawn y bydd eich ci yn rhedeg i ffwrdd ond yn dychwelyd atoch chi yn nes ymlaen pan fyddwch wedi symud yn ddigon pell o’r perygl.

Baw ci!

Mae pawb yn gwybod pa mor annymunol gall hyn fod, ac fe all fod yn ffynhonnell heintiau difrifol. Felly peidiwch byth â’i adael lle bydd pobl yn cerdded, chwarae neu yn cael picnic a chodwch faw eich ci bob amser, cewch wared ag ef yn gyfrifol trwy fynd ag ef ymaith a’i roi mewn biniau pwrpasol. Yng nghefn gwlad fe allwch chi ei daflu i laswellt hir ond gwnewch yn siŵr ei fod yn ddigon pell o unrhyw ddraeniau neu ddŵr a pheidiwch â’i adael mewn bagiau plastig ar ochr llwybrau neu unrhyw le arall.

Beth ddylwn i wneud os dof ar draws ceffylau yn y Parc Cenedlaethol?

Mewn rhai ardaloedd yn Eryri mae’n bosib y dewch ar draws ceffylau gwyllt neu geffylau eraill. Nid yw ceffylau fel arfer yn fygythiad i bobl ond mae’n bosib na fyddent yn hoff iawn o’ch ci hyd yn oed os yw’n ymddwyn yn dda. Felly'r peth gorau i’w wneud yw eu hosgoi os yn bosib.

Hyd yn oed os cewch eich temtio, peidiwch â cheisio rhoi bwyd neu rywbeth neis i geffylau gan y gall hyn greu ffrithiant o fewn eu grŵp cymdeithasol, a waeth pa mor ddymunol yw eich bwriad mae’n bosib i chi gael eich anafu’n ddrwg yn anfwriadol os byddent yn ymosod ar ei gilydd pan fyddwch yn agos.

A oes raid i mi dalu am barcio yn y Parc?

Mae amrywiaeth eang o feysydd parcio yn y Parc Cenedlaethol, o feysydd parcio sy’n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol, i’r rhai hynny sy’n cael eu gweithredu gan reolwyr tir cyhoeddus fel RSPB a’r Comisiwn Coedwigaeth, i’r rheolwyr tir preifat a’r stadau unigol. Mae mwyafrif o’r meysydd parcio hyn yn rhai talu-ac-arddangos.

Ga’ i wersylla unrhyw le yn y Parc Cenedlaethol neu a ydw i angen caniatâd?

Gall gwersylla gwyllt fod yn brofiad gwerth chweil a dod â phobl yn nes at eu hamgylchedd naturiol.

Fodd bynnag, perchnogion preifat sydd berchen ar y rhan fwyaf o’r tir ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac mae defnydd penodol ar gyfer y tir fel ffermio (defaid a gwartheg yn bennaf) neu goedwigaeth, ac ni chaniateir gwersylla gwyllt oni bai fod caniatâd yn cael ei roi yn benodol gan y tirfeddiannwr/wyr neu ffermwr, fel arall rydych yn cyflawni gweithred o dresmasu.

Mae hyn hefyd yn wir mewn unrhyw ardaloedd ucheldirol pellennig sydd heb eu ffensio. Mae darpariaethau tir mynediad y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CGaHT) yn datgan yn benodol (o dan y rhestr o gyfyngiadau yn Atodlen 2{1} s) nad yw gwersylla gwyllt yn weithgaredd a ganiateir oni bai fod caniatâd yn cael ei roi.

Hefyd, fe ddylech fod yn ymwybodol y gall fod gan rai ardaloedd ddynodiadau sensitif eraill fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig er mwyn gwarchod nodweddion naturiol fel daeareg a chynefinoedd bywyd gwyllt megis coedlannau hynafol, adar sy’n nythu ac amryw o rywogaethau eraill a warchodir.

Fodd bynnag, yn yr achosion hynny pan fo tirfeddianwyr wedi rhoi caniatâd yna fe awgrymwn y dylai unrhyw wersylla gael ei wneud yn gyfrifol ac yn ddisylw yn y bryniau a’r mynyddoedd ac y dylech ddilyn y Cod Gwersylla Gwyllt fel isod:

  • Dylech wersylla yn uchel a draw oddi wrth unrhyw draciau ar fryniau a gweundiroedd agored ac yn ddigon pell i ffwrdd o unrhyw dai a ffermydd.
  • Dechreuwch wersyllu yn hwyr a gadewch yn gynnar er mwyn lleihau eich presenoldeb gweledol gymaint â phosibl.
  • Arhoswch am un noson yn unig er mwyn lleihau eich effaith.
  • Peidiwch â gadael olion sy’n dangos eich bod wedi gwersylla yno.
  • Peidiwch â chynnau tân, a defnyddiwch stôf nwy i goginio.
  • Mynd i’r toiled – dylai fod o leiaf 30m i ffwrdd o unrhyw ffynhonnell dŵr neu lwybr, a dylid claddu gwastraff o leiaf 15cm o ddyfnder a’i orchuddio. Ewch â’ch papur ac eitemau iechydol adref gyda chi.
  • Peidiwch â gadael sbwriel ar eich ôl; ewch â’ch holl sbwriel a gweddillion bwyd adref gyda chi.
  • Peidiwch â llygru'r ardal â glanedyddion nad ydynt yn ecogyfeillgar a pheidiwch â defnyddio nentydd ac afonydd ar gyfer ymolchi â sebon neu unrhyw gynnyrch ymolchi arall. Ewch â bowlen fach gyda chi a’i waredu yn ddigon pell o unrhyw ddyfrffosydd.
  • Symudwch yn eich blaen yn ddiffwdan a heb ddadlau os bydd tirfeddiannwr yn gofyn i chi wneud hynny.
  • Defnyddiwch babell lliw anymwthiol sy'n cydweddu â'r olygfa.
  • Gwersyllwch gydag un neu ddwy babell yn unig; nid grwpiau ohonynt.
  • Dewiswch eich llain yn ofalus ac osgowch gloddio ffosydd, sathru planhigion a symud creigiau a cherrig er mwyn gwneud lle ar gyfer eich pabell.
  • Byddwch yn dawel.
  • Os oes gennych unrhyw amheuaeth pa un a allwch wersylla yn rhywle, yna dewiswch leoliad arall.

Ffynhonnell Wreiddiol: Gwefan yr Arolwg Ordnans Ebrill 2014 www.magazine.ordnancesurveyleisure.co.uk

O ran ‘gwersylla’ swyddogol, mae rhestr o feysydd gwersylla trwyddedig ffurfiol a llai eu maint ar gael gan y Parc Cenedlaethol, Canolfannau Croeso Conwy a Gwynedd, a gwefannau Croeso Cymru

.

www.visitsnowdonia.info

www.visitwales.com/holiday-accommodation

Am ragor o wybodaeth am wersylla gwyllt yn gyffredinol, ewch i wefan hynod ddefnyddiol y Backpack Club www.backpackersclub.co.uk

Sut y gallaf ddod o hyd i feysydd carafanio a gwersylla yn y Parc?

Mae gan Eryri nifer fawr o feysydd carafanau a gwersylla i'w cynnig, o feysydd gwersylla bach i feysydd mawr sy'n cynnig lle i garafanau a phebyll i'r teulu cyfan. Ewch draw i’n Canolfannau Croeso am fwy o wybodaeth neu ewch i wefan Eryri Mynyddoedd a Môr.

Ga’ i fynd â canŵ / caiac / rafft / hwylfwrdd ar afonydd a llynnoedd o fewn y Parc?

Yn gyfreithiol, nid oes neb yn berchen ar y dŵr ei hun, ond mae pwy bynnag sy’n berchen ar y tir ar hyd glan yr afon (perchennog glannau afon) hefyd yn berchen ar yr hawliau eiddo i wely’r afon. O dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, mae unrhyw un sydd ar y dŵr hwnnw heb ganiatâd y perchennog glannau afon yn tresbasu. Mae hawliau mynediad i rai o afonydd a llynnoedd Eryri. Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chymdeithas Canŵio Cymru.

Beth yw’r rheolau ynghylch pysgota yn y Parc Cenedlaethol?

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnig rhai o’r dyfroedd gorau ym Mhrydain ar gyfer pysgota. Ond cyn mentro allan i bysgota, gwnewch yn siwr fod gennych drwydded gwialen Asiantaeth yr Amgylchedd y gallwch ei phrynu o unrhyw Swyddfa Bost neu trwy fynd i wefan Asiantaeth yr Amgylchedd, a thocyn dilys gan y gymdeithas neu’r bysgodfa briodol y gallwch ei brynu o bysgodfeydd, siopau pysgota neu o Ganolfannau Croeso.

Ga’ i wasgaru llwch yn y Parc Cenedlaethol?

Dim ond ychydig o dir y mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn berchen arno o fewn y Parc Cenedlaethol ac felly yr ateb yw fod rhaid i chi gael caniatâd y tirfeddianwyr gyntaf. Rydym yn gwerthfawrogi y gall pobl ddatblygu ymlyniad mawr i rai lleoedd felly nid oes gan yr Awdurdod wrthwynebiad i hyn, ond gan fod mwyafrif helaeth o’r tir yn berchen i dirfeddianwyr preifat mater o gwrteisi ydyw i ofyn eu caniatâd.

A fydd gwasgaru llwch yn effeithio ar fywyd naturiol yr ardal?

Fel popeth arall, y mae’n gwestiwn o raddfa ac ni fyddai’r Awdurdod yn cymeradwyo unrhyw beth a fyddai’n newid yr ecosystem naturiol yn yr ardaloedd o ddiddordeb cadwraethol. Mae tua 29% o Eryri wedi ei ddynodi am ei bwysigrwydd gwyddonol arbennig, ac felly o fewn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (NNR) byddai angen ymgynghoriad ar geisiadau o’r fath.

Ga’ i wasgaru llwch ar gopa’r Wyddfa?

Mae’r Awdurdod yn cymryd ardal o dir ar gopa’r Wyddfa ar brydles gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Fodd bynnag, mae’r copa yn lecyn poblogaidd dros ben ac yn gallu bod yn wyntog iawn, ac felly mae’n bosib na fydd modd i chi gael dim preifatrwydd ar gyfer beth a all fod yn weithred emosiynol iawn a gall hefyd fod yn anghyfleus i eraill. Mae copaon eraill yn llai prysur ac yn fwy preifat ac efallai y byddai’n bosib eu defnyddio yn dibynnu ar ganiatâd y tirfeddiannwr, wrth gwrs. Mae’r rhybudd ynghylch ardaloedd o ddiddordeb cadwraethol yn parhau i fod yn berthnasol yn yr achos hwn hefyd.

Ga’ i godi carreg goffa / plac neu ddarparu mainc er cof am un annwyl?

Nid yw’r Awdurdod o blaid gosod cerrig, placiau neu meinciau ar y mynydd gan eu bod yn amharu ar y teimlad o ddiffeithwch y mae nifer o bobl yn dod yma i’w fwynhau. Fodd bynnag, gall rhai safleoedd a reolir yn ffurfiol fod yn addas, a thra nad oes gennym ni safleoedd addas efallai y gall yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu Cyfoeth Naturiol Cymru eich cynorthwyo. Er hynny, gall yr Awdurdod dderbyn rhoddion ariannol yn arbennig ar gyfer cynorthwyo i gynnal a chadw ardaloedd o’r fath.

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)