Ymweld ag Eryri

Cader Idris o Foel Caerynwch

alt=

Cyngor Cyffredinol ar gyfer Perchnogion Cŵn

Lle gaf i fynd â’m ci yn y Parc Cenedlaethol, ac a oes rhaid iddo fod ar dennyn?

Ein cyngor cyffredinol i holl berchnogion cŵn yw i sicrhau bod eich ci ar dennyn trwy’r amser pan fyddwch yn agos i dda byw.

Mae cefn gwlad yn lle gwych i ymarfer eich ci ond dylid gwneud hynny mewn modd cyfrifol ac mewn man lle nad yw’ch ci yn gallu poeni neu fod yn beryglus i dda byw, bywyd gwyllt na phobl eraill (neu gŵn eraill). Mae’n drosedd caniatáu i’ch ci ymosod ar neu erlid da byw dan y Ddeddf Cŵn (Gwarchod Da Byw) 1953, a chaiff ffermwr saethu yn gyfreithlon unrhyw gi sy’n ymddwyn yn y modd yma heb roi rhybudd nac unrhyw ffurf o iawndal i’r perchennog.

Mae dau brif fath o ddarpariaeth mynediad ar gael i’r cyhoedd o fewn y Parc Cenedlaethol, sydd â rheolau ychydig yn wahanol mewn perthynas â chŵn. Un yw ‘tir mynediad’ a ddynodwyd dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CGaHT) 2000 ac sydd wedi eu marcio ar fapiau AO mewn lliw hufen wedi ei amgylchynu â llinell frown. Datgana hyn bod rhaid i chi roi eich ci ar dennyn tra byddwch ar dir mynediad rhwng Mawrth y 1af a Gorffennaf y 31ain. Y rheswm am hyn yw er mwyn osgoi aflonyddu da byw - defaid a gwartheg yn bennaf, ond gall cyfyngiadau lleol eraill fod yn weithredol ar gyfer cadwraeth natur, e.e ar gyfer adar sy’n nythu ar y ddaear, cymunedau o blanhigion prin neu nythfa benodol o drychfilod (fel glöyn byw prin).

Yr ail fath o fynediad i gefn gwlad yw trwy ddefnyddio’r rhwydwaith o Hawliau Tramwy Cyhoeddus fel Llwybrau Cyhoeddus. Mae’r ddeddfwriaeth hon ychydig yn wahanol gan mai ‘dan reolaeth glos’ y dylai eich ci fod, ac nid yn benodol ar dennyn. Fodd bynnag, mae’r un rheolau yn berthnasol. Hynny yw – peidiwch â gadael i’ch ci erlid nac ymosod ar dda byw na bod yn boen i eraill.

Efallai nad yw perchnogion cŵn yn ymwybodol o ba mor beryg y gall gwartheg fod, yn enwedig pan fydd ganddynt loeau bach. Gall cŵn ddeffro greddf hynod o amddiffynnol mewn gwartheg ac fe gynghorwn yn gryf i aelodau’r cyhoedd sydd â chŵn i’w hosgoi neu gadw’n ddigon pell ohonynt pryd bynnag y bydd hynny’n bosib. Os cewch eich erlid, rhyddhewch dennyn y ci ar unwaith a chanolbwyntiwch ar eich diogelwch eich hun. Mae’n debygol iawn y bydd eich ci yn rhedeg i ffwrdd ond yn dychwelyd atoch chi yn nes ymlaen pan fyddwch wedi symud yn ddigon pell o’r perygl.

Llwybr Llanberis, Yr Wyddfa

Llwybr Llanberis, Yr Wyddfa (© APCE)

Baw ci!

Dylai perchnogion cŵn fod yn ymwybodol o'r risgiau sylweddol y mae baw ci yn ei achosi i wartheg. Gall gwartheg gael eu heintio â Chanoswm Neospora sy'n achosi gwartheg i erthylu eu lloi. Nid oes brechlyn na gwellhad ar gyfer y clefyd hwn ac yn anffodus mae'n rhaid i wartheg wedi'u heintio gael eu difa oherwydd byddant yn parhau i erthylu eu lloi wedi iddynt gael eu heintio.

Felly mae'n holl bwysig bod perchnogion cŵn yn clirio'r baw ar ôl eu cŵn, e.e. ei fagio, ei symud a gwaredu ag o mewn modd priodol (ac nid ei adael mewn bagiau ar lwybrau troed neu ar hyd ymylon ffyrdd).

Ceffylau

Beth ddylwn i wneud os dof ar draws ceffylau yn y Parc Cenedlaethol?

Mewn rhai ardaloedd yn Eryri mae’n bosib y dewch ar draws ceffylau gwyllt neu geffylau eraill. Nid yw ceffylau fel arfer yn fygythiad i bobl ond mae’n bosib na fyddent yn hoff iawn o’ch ci hyd yn oed os yw’n ymddwyn yn dda. Felly'r peth gorau i’w wneud yw eu hosgoi os yn bosib.

Hyd yn oed os cewch eich temtio, peidiwch â cheisio rhoi bwyd neu rywbeth neis i geffylau gan y gall hyn greu ffrithiant o fewn eu grŵp cymdeithasol, a waeth pa mor ddymunol yw eich bwriad mae’n bosib i chi gael eich anafu’n ddrwg yn anfwriadol os byddent yn ymosod ar ei gilydd pan fyddwch yn agos.

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)