Plas Tan y Bwlch

Gerddi Plas Tan y Bwlch

Plas Tan y Bwlch

Adfer y Gerddi

Yn ystod gaeaf 2013-14 cafodd gogledd orllewin Cymru ei chwipio gan gyfres o stormydd ofnadwy a arweiniodd at ‘Storm Dydd Sant Ffolant’ ac fe ddioddefodd Plas Tan y Bwlch gyflymder gwyntoedd o 100 milltir yr awr ar y 13eg a 14eg o Chwefror, 2014.

O ganlyniad cafodd llawer o’r coed gwreiddiol a blanwyd yn ystod y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif eu dinistrio. Cafodd llawer mwy o blanhigion gan gynnwys llwyni a chasgliad pwysig o Rododendron Plas Tan y Bwlch eu chwalu wrth i’r coed mwyaf ddisgyn.

Mae’r ardd ffurfiol a’r goedlan yn ymestyn i tua 13-erw (5-hectar) a phlannwyd llawer o’r botaneg yn ystod yr 1880au gan Brif Arddiwr y Plas, John Roberts ar gyfer y perchennog ar y pryd, William Edward Oakeley.

Ychydig o'r difrod achoswyd gan stormydd Dydd Sant Ffolant

Ychydig o'r difrod achoswyd gan stormydd Dydd Sant Ffolant (© APCE)

Ein Prif Arddiwr, Chris Marshall yn dangos maint rhai o'r coed

Ein Prif Arddiwr, Chris Marshall yn dangos maint rhai o'r coed (© APCE)

Er ei fod yn brofiad ofnadwy ar y pryd, erbyn hyn mae’n cynnig cyfle i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ailblannu ac adfywio’r gerddi mewn ffordd fydd yn sicrhau ei oroesiad i’r ganrif nesaf a thu hwnt.

Gwnaed argymhellion i gyfnewid y planhigion meirw am rhai o’r un math, ond o gofio bod y casgliad gwreiddiol wedi ei blannu dros 100 mlynedd yn ôl yn Oes Fictoria, nid yw rhai o’r planhigion ar gael erbyn hyn ac felly mae’n rhaid gwneud newidiadau addas.

Mae ein staff wedi bod yn hynod brysur, ond rydym hefyd wedi cael cymorth gan eraill megis gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri sydd wedi bod yn gwbl ragweithiol wrth ein helpu i gyrraedd y nod o adfywio’r gerddi.

Hadau Magnolia Campbelli cyn eu plannu

Hadau Magnolia Campbelli cyn eu plannu (© APCE)

Gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn brysur yn ein gerddi

Gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn brysur yn ein gerddi (© APCE)

Roedd yr ardd a grëwyd gan deulu’r Oakeley yn ardd ar gyfer pob tymor. Roedd yn cynnwys planhigion oedd yn blodeuo yn y gwanwyn megis y ‘rhododendron’ a’r ‘camellias’, rhai oedd yn blodeuo yn yr haf fel yr ‘hydrangeas’ a’r ‘eucryphias’, coed a oedd yn deilio’r hydref fel y ‘Masarn Siapaneaidd’ a’r coed derw, a llwyni’r gaeaf megis y ‘bocs Nadolig’ a’r ‘witch hazel’.

Gan mai amcan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw annog ymwelwyr gydol y flwyddyn i Blas Tan y Bwlch, mae’n bwysig bod unrhyw raglen ailblannu yn ystyried y casgliad o blanhigion hyn yn ofalus.

Am fwy o wybodaeth a lluniau ar adfer gerddi’r Plas, dilynwch ein blog ‘Gerddi Plas’.