Plas Tan y Bwlch

Cwrs astudio Plast Tan y Bwlch

Plas Tan y Bwlch

Ymerodraeth Lechi'r Oakeley

Prif ffynhonnell cyfoeth enfawr y teulu Oakeley oedd y chwareli llechi ym Mlaenau Ffestiniog.

Cychwynnodd y diwydiant llechi yng Nghymru yn ystod y G18 er mwyn diwallu’r angen mawr am ddeunydd toi o ganlyniad i’r chwyldro diwydiannol. Erbyn diwedd y G19, Cymru oedd prif gynhyrchydd llechi’r byd.

Sut y dechreuodd

Roedd chwarel lechi Oakeley ar dir Rhiwbryfdir ger Ffestiniog. Dechreuodd y William Oakeley cyntaf ddatblygu’r busnes ac ym 1811 etifeddwyd y stâd gan ei fab William Griffith.

Ym 1819, cytunodd Samuel Holland, gwerthwr llechi o Lerpwl, i brydlesu tir Rhiwbryfdir gan William Griffith am dair blynedd, gan dalu rhent a degfed rhan fel breindal. Er hynny, wrth iddo sylweddoli potensial Rhiwbryfdir o ran y llechi oedd yno, penderfynodd gymryd les llawn ar y tir ym 1821.

Bu ei fab Samuel Holland yn rhedeg y chwarel am gyfnod byr wedyn. Yn ystod yr hanner canrif dilynol, datblygwyd y twll lle fyddai llond dwrn o ddynion yn gweithio i fod yn chwarel danddaearol fwyaf y byd gan gynhyrchu llechi o’r safon uchaf.

Gweithwyr chwarel lechi'r Oakeley

Gweithwyr chwarel lechi'r Oakeley

Chwarel yr Oakeley

Chwarel yr Oakeley

O ddrwg i waeth…

Cynyddodd y breindaliadau wrth i’r chwarel gynyddu gan arwain at wario helaeth ar y stâd a safon byw’r teulu. Rhwng 1824 a 1825 derbyniwyd £25,000 o freindaliadau yn unig, a fyddai heddiw gyfwerth â miliwn a hanner o bunnoedd!

Erbyn i Louisa Jane etifeddu’r stâd ar farwolaeth ei gŵr, roedd y diwydiant llechi wedi cynyddu’n aruthrol. Roedd tair chwarel wedi datblygu o’r chwarel wreiddiol yn Rhiwbryfdir, gyda phob un yn cael ei rhedeg yn annibynnol ac yn creu refeniw sylweddol. Roedd agor Rheilffordd Ffestiniog ym 1836 wedi hwyluso system gludo’r llechi yn arw.

Daeth y diwydiant cynyddol â gwaith i filoedd gan arwain at greu y dref lechi, Blaenau Ffestiniog, a datblygiad economaidd y dyffryn cyfan.

Yn dilyn marwolaeth Louisa Jane ym 1878, etifeddwyd y stâd gan William Edward Oakeley.

Roedd o leiaf 26 lefel neu lawr yn Chwarel yr Oakeley, a phob un tua 12 medr (40 troedfedd) o ddyfnder, gyda thua 70km (43 milltir) o dwneli cysylltiol.

Arian, arian, arian…

William Edward Oakeley oedd wrth y llyw pan ddaeth y les ar y tair chwarel i ben. Mewn ymgais fyrbwyll i gynnal y breindaliadau uchaf posibl, penderfynodd y tri thenant, Holland, Cwmni Llechi Rhiwbryfdir a’r Welsh Slate Company dorri corneli drwy dynnu’r pileri oedd yn cynnal y twneli er mwyn gwneud y ceudyllau yn fwy. Fe gostiodd hyn yn ddrud gan i nenfwd un o’r ceudyllau syrthio.

Oherwydd bod William Edward yn mynnu breindaliadau uwch, dim ond y Welsh Slate Company wnaeth ail-lesio. Wrth i’r Welsh Slate Company barhau i esgeuluso materion diogelwch yn y chwarel, cafwyd mwy a mwy o ddamweiniau wrth i greigiau syrthio a rhai pileri wanhau.

Yn y cyfamser, roedd William Edward wedi ffurfio Cwmni Llechi Oakeley oherwydd iddo fethu â chael y lesau. Roedd ei ymwneud uniongyrchol yn y chwarel yn mynd i gostio’n ddrud iddo, er hynny, gan fod yn rhaid iddo fenthyca gwerth £6 miliwn o arian heddiw er mwyn gallu rhedeg y chwarel. O ganlyniad roedd y teulu mewn dyledion mawr.

Tra’r oedd y teulu Oakeley yn wynebu problemau ariannol mawr yn sgil y newid yn y diwydiant llechi, dywedir fod Teddy (Edward de Clifford), yr etifedd, yn dal i wario arian mawr ar y betio.

Gweithwyr chwarel lechi'r Oakeley

Gweithwyr chwarel lechi'r Oakeley

Chwarel yr Oakeley

Chwarel yr Oakeley

Adfywiad y Diwydiant Llechi

Gwaethygodd y sefyllfa pan ddigwyddodd 'The Great Fall' gychwynnodd yn y chwarel ym mis Rhagfyr 1882 gan barhau nes i greigiau mawrion syrthio ym mis Chwefror 1883. Syrthiodd oddeutu 6 miliwn tunnell o gerrig yn ystod y cyfnod hwn a rhagwelwyd y byddai’n cymryd 20 mlynedd i glirio’r safle.

Dygwyd achos yn erbyn y Welsh Slate Company ond y cyfan a wnaeth y cwmni oedd terfynu’r les gan na allent fforddio talu’r iawndal. Gorfodwyd y cwmni Oakeley Slate Quarry Co. Ltd i gymryd drosodd y chwarel waelod. Roedd William Edward yn wynebu dyledion enfawr wrth i’r chwareli ymdrechu i greu digon o incwm i dalu ei fenthyciadau sylweddol.

Dirywiodd y diwydiant. Er gwaetha’r adfywiad bychan yn dilyn yr Ail Ryfel Byd ni lwyddodd yr Oakeley Slate Company i adfer ei hun ac fe gaewyd y chwarel ym 1971.

Roedd yr hyn a oedd wedi rhoi’r holl bŵer a chyfoeth i’r teulu Oakeley wedi’u dinistrio bron yn y diwedd.

Helynt yn y chwarel

Yn dilyn y dirywiad ar ddechrau’r G20, mae’r chwareli llechi yn ardal Blaenau Ffestiniog bellach wedi gweld adfywiad.

Fe ddaeth Chwarel yr Oakeley yn atyniad twristaidd am sawl blwyddyn ac fe brynwyd y safle gan Alfred McAlpine Slate ym 1998. Ailgychwynnwyd tynnu tunelli o lechi. Fe elwir y chwarel hyd heddiw yn Chwarel yr Oakeley.

Mae’r diwydiant ymwelwyr wedi datblygu ym Mlaenau Ffestiniog o ganlyniad uniongyrchol i’r diwydiant llechi. Mae un o’r hen chwareli, Llechwedd, wedi’i datblygu’n atyniad twristaidd sylweddol.

Daw ymwelwyr i weld sut mae’r diwydiant wedi trawsnewid cymdeithas, economi a thirlun y rhan yma o Eryri.