Plas Tan y Bwlch

Cwrs astudio Plast Tan y Bwlch

Plas Tan y Bwlch

Hanes Plas Tan y Bwlch

Mae Canolfan Parc Cenedlaethol Eryri wedi'i lleoli yn y plasdy gwledig arbennig hwn a fu am flynyddoedd maith yn gartref Cymreig i’r teulu Oakeley, perchnogion chwareli a thiroedd o fri yn yr ardal. Hwy oedd disgynyddion y teuluoedd Evans a Griffith a ddewisodd y llecyn prydferth hwn yn gartref iddynt, ac a gasglodd stad helaeth yn yr ardal yn yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif.

Rydym ni heddiw yn mwynhau eu hetifeddiaeth hwy, gyda’r gerddi a driniwyd mor ofalus, a’r grisiau a’r llwybrau a luniwyd mor gain, lle gellir gweld coed a llwyni prin yn britho’r stad o 100 acer. Mae'r rhain yn arwain i Lyn Mair, sydd â rhyw naws hudolus yn perthyn iddo ymhob tymor. Mae'r rhain i gyd yno i chi eu mwynhau ac mae taflenni ar y teithiau a’r llwybrau ar gael.

G16: Stâd Tan y Bwlch o’r dechrau…

Yn ystod y G16, bu Ieuan ap Iorwerth ap Adda a’i ddisgynyddion yn casglu eiddo a thir yn ardal Maentwrog a Blaenau Ffestinog gan arwain yn y pen draw at greu stâd Tan y Bwlch.

Cysylltiadau’r Teulu
Roedd llawer o barch yn lleol tuag at deuluoedd Tan y Bwlch oherwydd eu bod yn hanu o linach Collwyn ap Tangno, un o bymtheg llwyth Gwynedd. Roedd ganddynt gysylltiadau gyda’r Tywysog enwog, Gruffudd ap Cynan a lwyddodd i oresgyn y Saeson mewn brwydr ger Gellilydan, 4 milltir o Blas Tan y Bwlch.

Rhiwbryfdir (ger Blaenau Ffestiniog)

Rhiwbryfdir (ger Blaenau Ffestiniog)

Plas Tan y Bwlch, J. P. Neal

Plas Tan y Bwlch, J. P. Neal

G17: Yr ystâd yn ehangu trwy briodasau ac ewyllysiau

Ceir y cyfeiriad cyntaf at stâd Tan y Bwlch yn ewyllys Robert Evans yn 1602. Roedd mab Robert Evans, sef Robert yn briod â Lowri Prys, sef wyres Edmwnd Prys, Tyddyn Du, rheithor Maentwrog ac Archddiacon Meirionnydd. Roedd Edmwnd Prys yn un o’r rhai â gydweithiodd gyda’r Esgob William Morgan yn y gwaith o gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg.

Roedd etifeddiaeth Lowri yn cynnwys tiroedd Rhiwbryfdir ger Blaenau Ffestiniog, a fu’n allweddol i gyfoeth diweddarach y teulu, gan mai dyna’r tir lle’r oedd Chwarel yr Oakeley: chwarel hynod lwyddiannus a ddatblygwyd yn ystod y G19.

Yn 1634, daeth mab Robert a Lowri, Evan, yn Siryf Meirionnydd ac mae’n debyg mai ef adeiladodd y tŷ cyntaf yn y man lle saif Plas Tan y Bwlch heddiw.

Roedd croeso mawr i feirdd a phrydyddion fel Siôn Dafydd Las, Ellis Rowlands a Siôn Prichard Prys ym Mhlas Tan y Bwlch a mawr oedd eu canmol o’r tŷ hynod hwn.

Yn 1722, roedd Ellis Rowlands yn hael iawn ei ganmoliaeth o’r tŷ, ei safle bendigedig, y teulu a’u lletygarwch:

“Tŷ gwinoedd wyt mewn gwenallt
gwydrog wych mewn godre gallt
a’th goed a’th gaeau ydynt
hapus gaer rhag pwys y gwynt”.

Y teras a'r gerddi, Plas Tan y Bwlch

Y teras a'r gerddi, Plas Tan y Bwlch

Y teulu Oakeley yn ymweld â'r chwarel

Y teulu Oakeley yn ymweld â'r chwarel

G18: y Teulu Oakeley yn cyrraedd Plas Tan y Bwlch

Priododd Catherine, aeres y teulu Evans gyda Robert Griffith o Fach y Saint ger Cricieth, gan ychwanegu at y stâd.

Penderfynodd eu hŵyr hwy, Robert Griffith, ailadeiladu ac ymestyn y tŷ tua 1748. Ei fab ef, Evan Griffith oedd gwryw diwethaf y teulu Griffith. Roedd llinell wrywaidd y teuluoedd Evans a Griffith wedi dod i ben yn eu tro, a phob tro, priododd yr aeresau â phres a thir newydd.

Priododd Margaret, merch Evan Griffith gyda William Oakeley, gŵr ifanc cyfoethog o swydd Stafford yn 1789. Yn ôl y sôn, bu Margaret Griffiths yn chwilio am ŵr cyfoethog a fyddai’n gallu gofalu amdani ac ymestyn a gwella stâd Tan y Bwlch: William Oakeley oedd y dyn delfrydol! Yn wir, parhaodd y stâd yn nwylo’r teulu Oakeley am bron i 200 mlynedd.

William Oakeley - Perchennog Stâd Tan y Bwlch, 1789-1822
Roedd dyfodiad William Oakeley yn gychwyn ar gyfnod llewyrchus i’r stâd a oedd wedi cynyddu llawer trwy briodasau ac ewyllysiau. Roedd William Oakeley yn ŵr poblogaidd ac fe’i adnabyddid yn lleol fel ‘Oakeley Fawr’. Dywedir ei fod yn gallu siarad Cymraeg ond mae’n debygol iddo ddysgu’r iaith ar ôl priodi ei wraig.  

Fe’i cofir yn bennaf am wella’r tir amaethyddol gwael yn y dyffryn o dan y Plas. Amaethyddiaeth oedd prif gyflogwr yr ardal ar y pryd ond gan fod y llanw yn dod i fyny’r dyffryn, gwael oedd y tir ffermio. Penderfynodd ymgymryd â phrosiect enfawr a fyddai’n gwella’r tir trwy godi clawdd llanw bron i filltir o hyd. Costiodd hyn £309, a fyddai’n gyfwerth â £22,000 heddiw! Fe fu’r gwaith hwn o gymorth i beidio â gadael i’r afon orlifo ar hyd y dyffryn wrth i lefel y dŵr godi.

Rheilffordd Ffestiniog

Rheilffordd Ffestiniog

William Edward Oakeley a'i deulu

William Edward Oakeley a'i deulu

G19: Llanw a thrai cyfoeth y teulu Oakeley

Cafodd William Griffith Oakeley, mab William Oakeley, gyfnod hynod gyffrous. Llwyddodd i drawsnewid Chwarel yr Oakeley i fod yn chwarel danddaearol mwyaf y byd, gan gyflogi mwy na 1600 o ddynion.

William Griffith Oakeley – Perchennog Stâd Tan y Bwlch (1811-1835)
William Griffith fu’n gyfrifol am ddatblygu Chwarel yr Oakeley yn chwarel lechi ffyniannus. Daeth llawer o’i lwyddiant yn sgil achos cyfreithiol arwyddocaol pan aeth ati i erlyn ac ennill achos yn erbyn yr Arglwydd Rothschild am dresbasu ar dir Tan y Bwlch wrth iddo chwilio am fwynau a llechi. Golygai ennill yr achos hwn mai dim ond y teulu Oakeley allai elwa o’r llechi ar eu tir.

Adeiladodd sawl cei llechi ar yr afon Dwyryd er mwyn hwyluso’r system o gludo’r llechi a chyfrannodd at y gwaith o greu Rheilffordd Ffestiniog er mwyn gallu cludo’r llechi yn gyflymach.     

Bu farw William Griffith Oakeley yn ddi-blant a’i wraig, Louisa Jane Oakeley fu wrth y llyw nes i’r stâd gael ei throsglwyddo i fab ei gefnder, William Edward Oakeley yn 1879. Roedd William Griffith Oakeley wedi trefnu mai dim ond meibion William Edward Oakeley allai etifeddu’r stâd. Er hynny, newidiwyd y cymal yn yr ewyllys er mwyn i’w fab a’i ferch gael etifeddu. Hefyd, roedd Deddf Eiddo Gwraig Briod wedi’i chyflwyno gan olygu bod etifeddiaeth yn cael ei rheoli gan berthnasau gwaed yn hytrach na bod cyfoeth merch yn dod yn eddo’i gwr trwy briodas, sef yr union beth a oedd wedi digwydd yng nghyfnod datblygu’r stâd.

Lousia Jane Oakeley – Perchennog Stâd Tan y Bwlch (1835-1879)Parhaodd Louisa Jane â gwaith da ei gŵr gyda Chwareli’r Oakeley ac aeth ati i ddatblygu ymhellach dref lechi Blaenau Ffestiniog trwy adeiladu ysbyty yn y dref ar gyfer ei chwarelwyr.

Gyda’r blynyddoedd, crebachodd ei diddordeb yn y chwareli ac aeth yn feudwy. Penderfynodd William Edward Oakeley, a oedd i etifeddu’r stâd, geisio trefnu ei bod yn cael ei dyfarnu’n wallgof ond bu’n aflwyddiannus. Ond, flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1868, gadawodd Louisa Jane y Plas yn sydyn, gan drosglwyddo’r stâd i ofal William, er iddo aros yn ei meddiant nes iddi farw 11 mlynedd yn ddiweddarach. Ni ddaeth yn ôl i Gymru ac ni chafodd ei chladdu gyda’i gŵr.

William Edwards Oakeley – Perchennog Stâd Tan y Bwlch, 1879-1912
William Edward Oakeley, mab i gefnder William Oakeley oedd wrth y llyw wedi 1879 ac wrth edrych ar y Plas heddiw, mae dawn William Edward yn amlwg. Adeiladodd y ffenestri bwa sy’n edrych dros y lawnt, yr estyniad yn y de orllewin (sydd bellach yn dderbynfa a swyddfeydd) ac adeiladodd bont i gysylltu’r prif dŷ gydag ystafelloedd y morynion a’r gweision.

Yn ogystal, ailadeiladodd lawer ar bentref Maentwrog: yr Eglwys, cododd ysgol newydd a pharhaodd y cynllun adfer tir yn y dyffryn.  Fe dderbyniodd wobr am y gwaith adfer hwn gan Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau yn 1897.

Er hynny, roedd ei ddylanwad ar chwareli’r teulu yn echrydus ac arweiniodd hynny, yn y pen draw, at eu dirywiad. Er i’r llechi fod wrth wraidd cyfoeth y teulu am flynyddoedd, roedd trafferthion ariannol dybryd yn anorfod yn y G20.

Er gwaethaf ei broblemau ariannol enfawr, talodd William Edward Oakeley am drenau arbennig ar Reilffordd Ffestiniog i gludo miloedd o bobl i Dan y Bwlch i barti dathlu penblwydd 18 oed ei fab, Edward de Clifford Oakeley. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, fe dalodd i chwarelwyr a’u teuluoedd gael mynd i Landudno ar y trên. Awgryma’r hanesion hyn ei fod yn gyflogwr hael iawn!

Credir hefyd mai Plas Tan y Bwlch oedd y tŷ cyntaf yng ngogledd Cymru i gael golau trydan o’i ffynhonnell trydan hydro ei hun yn y 1890au. Cynhyrchid y trydan gan fath o olwyn pelton, gyda dŵr yn cael ei gludo mewn pibell o Lyn Mair (llyn artiffisial a grëwyd gan Mary Oakeley). Roedd y pwerdy bychan ar y bryn tu ôl i’r tŷ a dywedir fod y system ar waith hyd nes i bwerdy hydro cyhoeddus Maentwrog gael ei agor yn 1928.

G20: On'd oedden nhw’n ddyddiau da...

Roedd dechrau’r ganrif yn gyfnod blin wrth i William Edward Oakeley wynebu mwy o amseroedd anodd. Ond, erbyn iddo farw, roedd wedi llwyddo i godi digon o arian i gadw rhan o’r stâd a etifeddwyd gan ei ddau blentyn. Fe ddaeth llinell yr Oakeley i ben pan fu farw ei ferch Mary yn 96 oed ym 1961.

Edward de Clifford Oakeley – Perchennog Stâd Tan y Bwlch (1912-1915)
Roedd Edward de Clifford wedi etifeddu’r Plas a’r stâd ar ochr ogleddol yr afon. Etifeddwyd y tir i’r de gan ei chwaer, Mary Caroline.

Ni ddangosai Edward unrhyw ddiddordeb yn ei etifeddiaeth. Gwell ganddo ef oedd treulio amser yn gamblo ac mewn partïon yn Llundain. Honnir iddo unwaith wario £50,000 ar un bet, a fyddai heddiw gyfwerth â £3 miliwn! Does ryfedd fod sefyllfa’r teulu mor ddrwg!!

Erbyn 1915 roedd wedi gwerthu ei stâd i’w nith Margaret Inge am £25,000. Gydag arian adawyd iddi gan ei thad mae’n debyg, talodd Margaret hefyd y £40,000 o forgeisi dyledus.

Bu farw Edward yn ddi-briod ym 1919 gan adael swm rhyfeddol o £88,000. Methodd â gadael unrhyw ôl gwirioneddol ar y Plas a’r stâd.

Mary Oakeley/ Inge (o 1893) - Perchennog Stâd Tan y Bwlch (1912-1961)
Roedd Mary eisoes yn wraig weddw pan etifeddodd ei rhan o’r stâd gan ei thad.  Roedd wedi priodi gŵr cyfoethog o’r enw William Frederick Inge o Thorpe Hall ger Tamworth ym 1893. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, fe’i canfuwyd wedi crogi ei hun yng nghartref ei deulu ag yntau’n dioddef o salwch meddwl etifeddol.

Cawsant dri phlentyn; Margaret, Hilda ac Edith. Roedd Edith yn dioddef o salwch meddwl y teulu Inge a threuliodd rhan fwyaf o'i hoes mewn ysbyty meddwl.

Roedd Margaret wedi prynu’r Plas gan ei hewythr ond bu farw o niwmonia yn fuan wedyn. Rheolwyd y stâd gan Hilda am y 30 mlynedd wedyn. Bu farw’n ddibriod ym 1953 gan adael rhan ogleddol y stâd i’w mam a oedd felly yn awr yn berchen ar y cyfan.

Dywedir fod ‘Mrs Inge’ yn un reit awdurdodol! Roedd hi’n hoff o’i rheolau a’i threfn ac fe fynnodd mai dim ond ar brynhawniau dydd Llun y dylai gwragedd tŷ ar y stâd roi eu golch ar y lein ddillad. Er gwaethaf hynny, roedd y bobl lleol yn hoff ohoni ac fe ddywedir ei bod yn wraig hael.

Yn ystod y 1920au a’r 30au bu Mrs Inge yn magu merlod Cymreig Tan y Bwlch, yn bennaf er mwyn cael merlod i’r plant eu marchogaeth. Daeth ei stablau i fod yn bwysig iawn yn y cyfnod. Helpodd merlod Tan y Bwlch sefydlu’r stablau Coed Coch byd enwog yn Abergele, oedd yn eiddo i’r diweddar Miss Broderick MBE.

Yn dilyn marwolaeth Mary Inge, etifeddwyd y stâd gan y teulu Russell ond fe’u gorfodwyd i werthu ym 1962 oherwydd tollau marwolaeth anferthol. Fe brynwyd y stâd gan un o aelodau teulu blawd a phorthiant Bibby o Lerpwl gyda’r bwriad o agor Clwb Gwledig. Mae’r bythynnod gwyliau ar dir y Plas yn dyst i’r bwriad hwnnw.

Bu i Gyngor Sir Meirionnydd brynu'r tŷ a'r gerddi ym 1969. Yn ddiweddarach daethant o dan reolaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac agorwyd eu Canolfan Astudio ym 1975.

G21 - Plas Tan y Bwlch heddiw

Yn ystod 2004/ 2005 aethpwyd ati i wneud gwaith sylweddol ym Mhlas Tan y Bwlch er mwyn hwyluso mynediad y cyhoedd i’r tŷ ac i’r gerddi hanesyddol. Bellach mae gan drigolion lleol ac ymwelwyr gyfle i ddysgu am hanes y tŷ a’r gerddi yn ogystal â mynychu cyrsiau amrywiol yn y Ganolfan Astudio.

Y Prosiect
Roedd y prosiect gwerth £1.2 miliwn, gyda chymorth grantiau gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a CADW, yn cynnwys llawer o waith ar y gerddi, wyneb y tŷ a’r to. Roedd y gwaith y tu mewn i'r tŷ yn cynnwys gosod lifft a lifft grisiau yn ogystal ag adfer cymeriad unigryw yr heulfan.

Elfennau eraill y prosiect oedd chwalu wyneb llawr gwaelod yr hen bwll nofio ac ailadeiladu’r wal gan ddefnyddio cerrig cydnaws â gweddill yr adeiladau. Ailosodwyd pyst tywodfaen yn y ffenestri ar lawr gwaelod y prif adeilad.

Fel rhan o’r prosiect, gosodwyd cyfleusterau addysgol newydd yn y tŷ a’r gerddi er mwyn galluogi ymwelwyr i gael gwell dealltwriaeth o dreftadaeth unigryw y Ganolfan a’r tirlun.

Y Cyrsiau
Mae'r cyrsiau cyhoeddus a gynhelir ym Mhlas Tan y Bwlch yn cael eu hadolygu'n gyson mewn ymgais i addasu i ofynion cyfranwyr.

Mae’r meysydd cyfredol yn cynnwys:

  • Cerdded
  • Paentio
  • Archaeoleg Diwydiannol
  • Hanes a Diwylliant
  • Crefftau
  • Llên gwerin

Mae yna hefyd amrywiaeth o gyrsiau Hyfforddiant Proffesiynol wedi’u hanelu at bobl sydd yn gweithio yn y maes amgylcheddol e.e. Swyddogion Awdurdod Lleol, Wardeiniaid, darlithwyr a myfyrwyr Prifysgolion a Cholegau. Mae copïau o’r taflenni am Gyrsiau Hyfforddi Proffesiynol a Chyhoeddus ar gael yn y Dderbynfa.

Mae llawer o brifysgolion a chyrff lleol a chenedlaethol hefyd yn defnyddio cyfleusterau’r Ganolfan ar gyfer cynnal eu digwyddiadau preswyl eu hunain.

Eco Ganolfan
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn rhan o gynllun y Ddraig Werdd ac mae Plas Tan y Bwlch yn gweithio tuag at ennill statws Eco-Ganolfan.

Mae disgwyl i Ganolfannau sy’n ymdrechu i ennill statws eco-ganolfan fabwysiadu egwyddorion ‘gwyrdd’ a’u cymhwyso i’r gwaith o redeg y Ganolfan o ddydd i ddydd. O ganlyniad, mae’r broses hon yn codi ymwybyddiaeth staff a myfyrwyr ar ymweliad o bwysigrwydd materion datblygu cynaliadwy ac yn eu hannog i wneud penderfyniadau cynaliadwy yn y gwaith ac yn y cartref.

Eisoes mae’r Ganolfan wedi mabwysiadu’r canlynol:

  • Ailgylchu pob gwydr
  • Ailddefnyddio papur swyddfa
  • Ailgylchu papur
  • Defnyddio bylbiau golau arbed ynni
  • Gofyn i westeion ddefnyddio llieiniau sawl gwaith

Cyrff Eraill
Yn ogystal â chynnig amrywiaeth eang o gyrsiau, mae Plas Tan y Bwlch hefyd yn cynnal cynadleddau a seminarau ar gyfer nifer helaeth o gyrff e.e.

  • Cymdeithas Edward Llwyd
  • Cymdeithas Ted Breeze Jones
  • Cyfeillion Tan y Bwlch
  • Fforwm Tan y Bwlch

Yn 2003 fe enillodd y Plas wobr Bwrdd Croeso Cymru am fod y Ganolfan orau yn y Categori Gweithgaredd Arbenigol.

Defnyddir y Ganolfan yn ogystal gan gymuned leol Maentwrog ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol a chyfarfodydd.