Cynllunio

Melin Lechi Ynys y Pandy

Beddgelert

Adeiladau Rhestredig

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru lunio rhestr o adeiladau o ddiddordeb arbennig archeolegol neu hanesyddol. Defnyddir y rhestrau i gynorthwyo awdurdodau cynllunio i wneud penderfyniadau gyda diddordebau'r amgylchedd hanesyddol wedi'u hadnabod yn glir. Ymgymerir â'r gwaith o lunio'r rhestr gan Cadw, yn Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Las Ynys Fawr, Harlech

Las Ynys Fawr, Harlech (© APCE)

Sut mae'r rhestrau yn cael eu sefydlu?

Fel rheol mae adeiladau yn cael eu rhestru yn dilyn arolwg o'r ardal ond weithiau gall eiddo gael eu - 'rhestru ar hap' – os ydynt dan fygythiad datblygiad. Fe all adeilad gael ei restru yn dilyn rhybudd gan awdurdod cynllunio lleol.

Sut mae adeiladau yn cael eu dewis?

Asesir adeiladau gyferbyn â'r meini prawf a ganlyn:

  • Diddordeb archeolegol: adeiladau sy'n bwysig i'r genedl oherwydd eu dyluniad archeolegol, addurniad a'u crefftwaith; a hefyd mathau penodol o adeiladau a dulliau (er enghraifft, adeiladau sy'n dangos arloesedd technolegol neu rinweddau) a ffurfiau cynllun arwyddocaol.
  • Diddordeb hanesyddol: adeiladau sy'n dangos agweddau pwysig o hanes cymdeithasol, diwylliannol neu filwrol y genedl. * Cysylltiadau hanesyddol clos gyda phobl neu ddigwyddiadau o bwys i Gymru.
  • Cysylltiadau hanesyddol clos gyda phobl neu ddigwyddiadau o bwys i Gymru.
  • Gwerth grŵp: yn enwedig lle mae adeiladau'n cynnwys undod archeolegol neu hanesyddol neu esiampl dda iawn o gynllunio (er enghraifft, sgwariau, terasau neu bentrefi model).
Wrth ystyried a ddylai adeilad gael ei restru, cynghorir y Cynulliad gan Archwilydd Adeiladau Hanesyddol o fewn Cadw, sy'n gwneud asesiadau yng ngoleuni'r asesiadau hyn. Ymgynghorir gydag awdurdodau lleol a'r Gymdeithas Frenhinol dros Henebion Cymru. Fodd bynnag, mae gerddi yn eithriad, ni ellir eu rhestru, er, fe ellir rhestru strwythurau gardd yn unigol. Mae Cadw wedi paratoi cofrestr anstatudol o barciau o ddiddordeb hanesyddol sy'n darparu gwybodaeth ynghylch safleoedd o ddiddordeb.

Pa eitemau a restrir?

Mae rhestru'n berthnasol i du mewn a thu allan adeilad, unrhyw beth neu strwythur sy'n osodedig arno ac unrhyw strwythur o fewn ei gwrtil sy'n ffurfio rhan o'r tir a hynny ers cyn y 1af o Orffennaf 1948.

Beth yw'r graddfeydd a ddefnyddir?

Dosberthir adeiladau rhestredig mewn graddfeydd i ddangos eu pwysigrwydd perthynol. Y graddau yw:

I - Adeiladau o ddiddordeb eithriadol, yn genedlaethol fel rheol. Ar hyn o bryd, mae llai na dau y cant o adeiladau yng Nghymru yn gymwys ar gyfer y raddfa hon.

II* - Adeiladau o bwysigrwydd arbennig gyda mwy nag un diddordeb arbennig iddynt.

II - Adeiladau o ddiddordeb arbennig, sy'n haeddu pob ymdrech i'w gwarchod.

Beth mae rhestru yn ei olygu yn ymarferol?

Yn ogystal â darparu cyfeirnod parod o adeiladau o bwysigrwydd i dreftadaeth y genedl, mae rhestru'n rhoi lefel ychwanegol o warchodaeth. Mae hyn ar ffurf trefn gynllunio arbennig a adwaenir fel caniatâd cynllunio. Mae'n drosedd cyflawni unrhyw waith (mewnol neu allanol) a fyddai'n effeithio ar gymeriad adeilad unwaith y bydd hwnnw wedi'i restru oni bai fod caniatâd adeilad rhestredig wedi cael ei dderbyn gan yr awdurdod cynllunio lleol. Mae gwaith cynnal a chadw rheolaidd neu atgyweirio tebyg am debyg, yn eithriedig, fel rheol o ran rheoliadau adeiladu. Gall eich awdurdod lleol roi arweiniad mewn unrhyw achos penodol ac fe ddylid ymgynghori â hwy cyn i unrhyw waith ddechrau. Am ragor o fanylion ynghylch gweithdrefnau adeiladau rhestredig, cyfeiriwch at lyfryn Cadw o dan Caniatâd Adeilad Rhestredig.

Efallai y bydd nifer cyfyngedig o adeiladau yn gymwys am grant gan Cadw i gynorthwyo gyda gwaith atgyweirio, ond nid yw hyn yn digwydd yn awtomatig. Mae'r meini prawf cymhwyso yn mynd y tu hwnt i feini prawf rhestru. Am fanylion ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael cyfeiriwch at daflen Cadw Grantiau Adeiladau Hanesyddol & Grantiau Ardaloedd Cadwraeth.

Pa wybodaeth sydd wedi'i gynnwys o fewn y rhestrau?

Mae'r rhestrau yn cynnwys disgrifiad o bob adeilad. Pwrpas hyn yn bennaf yw cynorthwyo i adnabod yr adeilad. Nid oes grym statudol iddo. Bydd y disgrifiad yn egluro pam fod yr adeilad wedi cael ei ddethol i'w restru ac yn cyfeirio at nodweddion pwysig. Nid yw absenoldeb unrhyw nodwedd o'r rhestr yn golygu nad yw o ddiddordeb nac ychwaith y gellid ei symud neu ei addasu heb ganiatâd. Mae pob cofnod yn y rhestr yn cynnwys y wybodaeth a ganlyn:

  • Y stryd, enw neu rif yr adeilad;
  • Ei radd;
  • Rhif cyfeirnod a'r Cyfeirnod Grid Cenedlaethol;
  • Disgrifiad byr o'r adeilad, hanes a materion eraill o ddiddordeb;
  • Cyfeiriad, pan fo hynny'n berthnasol, at wybodaeth arall a gyhoeddwyd ynghylch yr adeilad a'i bwysigrwydd.

Beth yw swyddogaeth yr awdurdodau lleol wrth restru?

Ymgynghorir gyda'r awdurdod lleol cyn rhestru unrhyw adeilad ac fe'i gwahoddir i ddarparu unrhyw wybodaeth berthnasol fel caniatâd cynllunio sydd mewn bodolaeth. Pan gaiff adeilad ei restru, bydd Cadw'n hysbysu'r awdurdod cynllunio lleol sy'n cyflwyno hysbysiad i'r perchennog a'r deiliad.

A oes modd apelio yn erbyn rhestru?

Nid oes unrhyw hawl statudol i apelio, ond dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth berthnasol am adeilad ei hanfon at Cadw a gofyn i'r rhestriad gael ei ail ystyried. Dylid seilio apêl ar wybodaeth sy'n gysylltiedig â diddordeb pensaernïol neu hanesyddol yr adeilad ac nid ar effeithiau diogelwch statudol ar gynigion datblygu. Byddai ffactorau o'r fath yn briodol i gais am adeilad rhestredig.

Ffynhonnell: www.cadw.wales.gov.uk