Cyflwr yr Parc

Yr Ysgwrn, Y Gadair Ddu

alt=Yr olygfa o Gopa'r Wyddfa

Sgiliau a Phroffil Yr Iaith Gymraeg

Mae data cyfrifiad diweddaraf yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng rhwng 2001 a 2011. Ym 1911 roedd y ffigur ar gyfer y nifer o bobl a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn agos at filiwn. Gostyngodd y ffigur yn ystod yr ugeinfed ganrif nes cyrraedd isafbwynt o 504,000 ym 1981. Bu cynnydd bach yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng 1981 a 2001 cyn gostwng eto, er bod ffigur 2011 yn fwy na 1991.

Sgiliau Yr Iaith Gymraeg

 Gwir NiferAPCE – Cyfrifiad 2011 %APCE – Cyfrifiad 2011 %Cymru – Cyfrifiad 2011 %Cymru – Cyfrifiad 2011 %
  Yr holl breswylwyr arferol oedran 3 oed a throsodd24,959    
  Dim sgiliau Cymraeg8,10432.5%30.2%73.3%71.6%
  Yn deall y Gymraeg ar lafar yn unig1,8617.5%6.1%5.3%4.9%
  Yn gallu siarad Cymraeg14,62658.6%62.1%19.0%20.5%
  Yn gallu siarad Cymraeg ond ddim yn gallu darllen nac ysgrifennu Cymraeg1,3345.3%5.3%2.7%2.8%
  Yn gallu siarad a darllen Cymraeg ond ddim yn gallu ysgrifennu Cymraeg8343.3%2.3%1.5%1.4%
  Yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg12,41349.7%54.5%14.6%16.3%
  Cyfuniad o sgiliau Cymraeg eraill4131.7%1.6%12.5%3.0%

Mae'r newid yn y siaradwyr Cymraeg yn y Parc Cenedlaethol yn gyson â'r duedd a welwyd ar y lefel genedlaethol. Bu gostyngiad o 3.5% yn y nifer o bobl a allai siarad yr iaith rhwng 2001 a 2011. Mae'r canran o ostyngiad yn fwy na'r cyfartaledd cenedlaethol o 2%. Bu newid sylweddol yng nghanran y bobl a allai siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg, gyda gostyngiad o 4.8%. Roedd cynnydd o 2.3% yng nghanran y bobl heb unrhyw sgiliau yn yr iaith Gymraeg o fewn Eryri.

Rhwng 2001 a 2011 er y bu cynnydd yn y nifer o blant (3-4) ac oedolion (20-44) oedd yn gallu siarad Cymraeg ar y lefel genedlaethol, bu gostyngiad ym mhob grŵp oedran arall. Roedd gostyngiad yn y nifer o bobl dros 3 oed oedd yn gallu siarad Cymraeg ym mron pob awdurdod lleol, gyda'r gostyngiadau mwyaf wedi digwydd mewn ardaloedd sydd â thraddodiad o lefel uchel o siaradwyr Cymraeg.

Mae yna nifer o resymau posibl dros y gostyngiad hwn. Ar lefel genedlaethol, bu nifer o newidiadau demograffig dros y blynyddoedd; newidiadau sydd hefyd yn berthnasol i lefel Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r rhesymau dros y newidiadau hyn yn cynnwys:

  • llai o blant ifanc
  • cynnydd mewn mewnfudo, o blith oedolion hŷn di-Gymraeg
  • colli siaradwyr Cymraeg hŷn
  • mfudo i rannau eraill o'r DU a
  • hai wedi colli eu sgiliau iaith Gymraeg rhwng y ddau gyfrifiad (ee rhai a nododd bod ganddynt sgiliau yn y Gymraeg yn 2001, heb eu nodi yn 2011).

Ffynhonnell: Bwletin Ystadegol Llywodraeth Cymru