Gweld Sêr

Trawsfynydd (© Keith O'Brien)

alt=Ty Cipar Llyn Conwy (© Keith O'Brien)

Treftadaeth Ddiwylliannol

Ers cyn cof, bu’r sêr a’r planedau o’n cwmpas yn ysbrydoli beirdd, llenorion, artistiaid, cerddorion a chrefftwyr. Yn y Gymraeg, bu’r awyr dywyll yn ysbrydoli nifer o feirdd anhysbys yr hen benillion.

Er iddynt gael eu cofnodi yn y ddeunawfed ganrif, mae’n debyg eu bod yn hŷn o lawer na hynny. Arferent gael eu canu i gyfeiliant y Delyn.

Dyma rai y daethom ni ar eu traws. Tybed wyddoch chi am eraill?

Pan fo seren yn rhagori,
Fe fydd pawb â’i olwg arni;
Pan ddêl unwaith gwmwl drosti,
Ni fydd mwy o sôn amdani.

Ofer ydyw saethu seren,
Ofer golchi traed hwyaden;
Ofer ydyw, cofia’r ddameg,
Iro tor yr hwch â bloneg.

Trwm yw’r plwm, a thrwm yw’r cerrig,
Trom yw calon pob dyn unig;
Trymaf peth tan haul a lleuad
Canu’n iach lle byddo cariad

Fe gwn yr haul, fe gwn y lleuad,
Fe gwn y môr yn donnau irad,
Fe gwn y gwynt yn uchel ddigon;
Ni chwn yr hiraeth byth o’m calon.

Hardd yw gwên yr haul yn codi
Gyda choflaid o oleuni,
Hardd y nos yw gwenau’r lleuad,
Harddach ydyw gwên fy nghariad.

Bendith nef i’th ddau lygedyn,
Gwn mai arian byw sydd ynddyn’;
Yn dy ben y maent yn chwarae,
Fel y sêr ar noswaith olau.

Mae ‘nghariad i’n Fenws, mae ‘nghariad i’n fain,
Mae ‘nghariad i’n dlysach na blodau y drain,
Fy nghariad yw’r lana’ a’r wynna’n y sir,
Nid wyf yn ei chanmol ond dwedyd y gwir.

Tri pheth sy’n anodd imi,
Cyfri’r sêr pan fo hi’n rhewi,
Rhoi fy llaw ar gwr y lleuad
A gwybod meddwl f’annwyl gariad.

Edrych ar y dorth, os gelli,
Sut y mae yn cael ei thorri;
Os yw hi fel dau gorn lleuad
Paid â chymryd hon yn gariad.

Maent yn dwedyd yn Llanrhaead’
Mai rhyw deiliwr wnaeth y lleuad;
A’r rheswm am fod golau drwyddo
Ei fod heb orffen cael ei bwytho.