Newid Hinsawdd

Tyrbin gwynt

alt=Traphont Viaduct

Newid Hinsawdd

Does dim diwrnod yn mynd heibio heb i newid hinsawdd gael ei grybwyll yn y papurau newydd, ar y teledu neu ar y radio. Ac eto, ‘does neb yn gwybod beth mae’r term newid hinsawdd yn ei olygu, na be’ sy’n digwydd, na sut y bydd yn effeithio arnom ni, fel unigolion, nac ar ein cymdeithas a’n byd naturiol. Fodd bynnag, dydi newid hinsawdd ddim yn rhywbeth sydd yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol yn unig …..maen nhw’n newidiadau sy’n digwydd eisoes yn awr, ac fe fydd yr ardrawiadau cysylltiedig yn effeithio ar Gymru yn sylweddol dros y ganrif nesaf - hynny ydi, yn ystod oes nifer ohonom ni!

Tra fo newidiadau hinsoddol naturiol wedi digwydd ar y Ddaear trwy gydol ei hanes, bellach mae yna dystiolaeth ddigamsyniol fod gweithgareddau a achosir gan ddyn, fel llosgi ffosilau tanwydd, wedi achosi tymheredd bydol graddfa uwch dros y 50 mlynedd ddiwethaf na’r hyn a welwyd dros gyfnod o filoedd o flynyddoedd. Trwy gynyddu'r graddfeydd gollyngiadau nwyon tŷ gwydr, rydym wedi newid cyfansoddiad atmosffer y Ddaear, a chanlyniad hynny yw rhagor o ynni yn cael ei ddal gan yr haul gan achosi tymheredd bydol i godi - adwaenir hyn fel yr effaith tŷ gwydr.

Felly beth ydi nwyon tŷ gwydr? Er bod yna nifer, y 3 prif nwy a adnabyddir yw:

  • Carbon deuocsid, sy’n cael ei rhyddhau i'r atmosffer trwy losgi tanwydd ffosil, coed a chynnyrch coed, cynhyrchu sment a cholli carbon trwy ddigoedwigo a newid defnydd tir;
  • Methan / Llosgnwy, sy’n cael ei ollwng pan fo gwastraff organig yn pydru, boed hynny mewn safleoedd tirlenwi neu mewn cysylltiad â ffermio da byw. Hefyd mae gollyngiadau llosgnwy yn gallu digwydd yn ystod cynhyrchiad a chludiant tanwyddau ffosil. Mae llosgnwy 21 gwaith yn gryfach fel nwy ty gwydr na charbon deuocsid;
  • Ocsid nitraidd, sy’n cael ei ollwng yn ystod gwahanol brosesau amaethyddol a diwydiannol, a pan fo gwastraff caled neu danwydd ffosil yn cael eu llosgi. Mae ocsid nitraidd yn 310 gwaith yn gryfach fel nwy tŷ gwydr na charbon deuocsid.

Newidiadau a ragwelir yn Eryri

Erbyn diwedd yr 21 ganrif, yn sgil newid hinsawdd fe all Eryri edrych a theimlo yn wahanol iawn i'r hyn rydym ni’n gyfarwydd ag o heddiw. Trwy ddefnyddio technegau modelu a thechnoleg ddiweddar (UKCP09), disgwylir gweld y newidiadau a ganlyn yng Nghymru erbyn yr 2080’au trwy ddefnyddio 3 golygfa yn seiliedig ar lefelau gwahanol o ollyngiadau nwyon ty gwydr yn y dyfodol (a gyfeirir atynt fel golygfeydd / senarios gollyngiadau Isel , Canolig ac Uchel):

Tymh Gaeaf Cymedrig (°C)* Tymh Haf Cymedrig (°C)* Tymh Dyodiad Blynyddol* Tymh Dyodiad Gaeaf* Tymh Dyodiad Haf*
*lefelau gwaelodlin yn 1961 – 1990 ar gyfartaledd.
2020au
Isel +1.2 +1.5 +1% +5% -6%
Canolig +1.3 +1.4 0% +7% -7%
Uchel +1.2 +1.3 0% +5% -4%
2050au
Isel +1.8 +2.2 -1% +9% -12%
Canolig +2 +2.5 0% +14% -17%
Uchel +2.3 +2.8 0% +13% -17%
2080au
Isel +2.4 +2.7 0% +16% -13%
Canolig +2.8 +3.5 0% +19% -20%
Uchel +3.3 +4.5 0% +26% -26%

Er na ddisgwylir i newidiadau hinsoddol yn Eryri i fod mor eithafol â’r rhai sy’n digwydd ym mhen deheuol a dwyreiniol Ynysoedd Prydain, rydym yn dal yn debygol o brofi newidiadau sylweddol dros y degawdau sydd i ddod. Er y bydd cyfartaledd y dyddodiad blynyddol yn gyson gan mwyaf, rydym yn debygol o weld gwahaniaethau sylweddol mewn patrymau tywydd tymhorol. Er enghraifft, erbyn 2080au, er y rhagwelir y bydd y disgyniad glaw yng Nghymru yn aros fel ac y mae yn awr o dan y 3 golygfa, mae patrwm y disgyniad glaw yn debygol o newid yn sylweddol, gyda gaeafau yn debygol o fod 26% yn wlypach a’r disgyniad glaw yn yr haf yn disgyn yr un faint a hynny. Gallwn ddisgwyl i dymheredd y gaeaf a’r haf i gynyddu hyd at 3.3°C a 4.5°C yn olynol. O ganlyniad, bydd y newidiadau hyn, ynghyd â’r digwyddiadau o dywydd eithafol yn cynyddu, yn effeithio ar bob un ohonom, gan gynnwys unigolion a theuluoedd a’r sectorau diwydiannol ac awdurdodau'r Llywodraeth, ac felly mae addasu ar gyfer newid hinsawdd yn hanfodol er mwyn lleihau’r effeithiau / ardrawiadau ar ein cymdeithas, yr economi a’r byd naturiol.