Bioamrywiaeth

Frân Goesgoch (Pyrrhocorax)

alt=Morfa Mawddach

Bioamrywiaeth yn Eryri

Mae Eryri gyfystyr ag ardaloedd helaeth o ucheldiroedd digysgod a chopaon cribog. Ar wahân i harddwch ei mynyddoedd uchel, mae gan Eryri gynefinoedd lled-naturiol trawiadol, sy’n gynnyrch grymoedd naturiol a gweithgareddau dyn. Yn sgil ei lleoliad yng ngorllewin Ewrop, daw tywydd cynnes, gwlyb i Eryri, sy’n golygu ei bod yn gartref delfrydol i filoedd o rywogaethau a’u cynefinoedd. Mae nifer o’r rhywogaethau a’r cynefinoedd hyn o bwysigrwydd rhyngwladol, ac mae rhai ohonynt na ellir eu canfod mewn unrhyw fan arall yn y byd!

Dyma ychydig o enghreifftiau o’r rhywogaethau sy’n ymgartrefu yma yn Eryri:

Yr ystlum pedol lleiaf (Rhinolophus hipposideros)

Yr ystlum pedol lleiaf yw un o’r mathau lleiaf o ystlum yn y Deyrnas Unedig, ac mae Eryri’n gadarnle ar ei gyfer, ac yn cynnwys dros 25% o gyfanswm poblogaeth y Deyrnas Unedig. Mae’r rhesymau dros y gostyngiad yn ei niferoedd yn cynnwys dwysâd amaethyddol a gostyngiad mewn safleoedd clwydo addas. Er eu bod yn arfer byw mewn ogofâu, mae’r ystlum pedol lleiaf bellach wedi addasu, ac yn ystod yr haf maent fel arfer yn byw mewn toeau tai gwledig mawr a thai allan. Maent yn gaeafgysgu o ddechrau’r hydref (Medi / Hydref) tan y gwanwyn (Ebrill), gan ddefnyddio ogofâu, siafft mwyngloddio a selerydd. Maent yn paru yn ystod yr hydref, ac yn geni rhai ifanc yn ystod y mis Mehefin / Gorffennaf canlynol. Maent yn bwydo yn nyffrynnoedd yr iseldir, ac mae’r hyn y maent yn ei fwyta’n cynnwys ystod eang o infertebratau, megis clêr, gwyfynod bach, pryfed pric, adenydd siderog, chwilod, cacwn bach a phryfed cop. Rydych fwyaf tebygol o weld ystlum pedol lleiaf yn dod allan o’u clwydi haf tua hanner awr ar ôl machlud haul, â’r gweithgarwch yn cyrraedd ei anterth gyda’r cyfnos a’r wawr. Fel pob ystlum brodorol, mae’r ystlum pedol lleiaf yn cael ei warchod o dan ddeddfwriaethau'r Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Yr ystlum pedol lleiaf (© APCE)

Yr ystlum pedol lleiaf (© APCE)

Bele’r Coed (Martes martes)

Mae bele’r coed yn garlymoliad o faint canolig sydd i’w ganfod mewn coedlannau, â choed conwydd yn bennaf, ac ucheldiroedd agored. Maent yn anifeiliaid main, â ffwr brown trwchus, cynffonau trwchus hir, a darnau gwyn (y cyfeirir yn aml atynt fel ‘bibiau’) ar eu brest. Maent fel arfer yn hela ar y llawr, ac yn bwydo ar ystod o famaliaid bach, adar, ffrwythau ac infertebratau. Mae bele’r coed yn paru dros fisoedd yr haf, er bod beichiogrwydd wedi’i oedi tan y mis Ionawr canlynol. Yna bydd y dorllwyth yn cael ei eni yn ystod y mis Mawrth neu Ebrill canlynol. Roedd bele’r coed yn arfer bod yn ddigon cyffredin drwy Brydain gyfan, ond bellach mae’r niferoedd wedi gostwng yn gyflym dros y 200 mlynedd ddiwethaf o ganlyniad i golli cynefinoedd, erledigaeth gan giperiaid, a hela am eu ffwr. Er na wyddys faint o fele’r coed sydd yn Eryri, maent wedi cael eu cofnodi’n rheolaidd yn yr ardal yn ystod cyfnod y gostyngiad yn eu niferoedd. Mae’n cael ei ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) yn y Deyrnas Unedig.

Y Frân Goesgoch (Pyrrhocorax pyrrhocorax)

Y frân goesgoch yw’r math prinnaf o frân sy’n magu ym Mhrydain. Mae fwy neu lai’r un maint â jac-y-do, mae ganddi big a choesau coch, sy’n ei gwahaniaethu o weddill teulu’r frân. Mae’r frân goesgoch yn ymddangos yn ochr orllewinol y Deyrnas Unedig, ac er mai ar yr arfordir y’i canfyddir amlaf, yn Eryri deuir o hyd iddi’n aml yn fewndirol mewn bryniau gerwin. Mae’r boblogaeth fewndirol yn magu mewn nifer o wahanol safleoedd, o agennau mewn clogwyni a chwareli i adeiladau segur a siafftiau mwyngloddio. Mae’r frân goesgoch fel arfer yn aros â’r un partner, er ei bod yn bosibl iddynt chwilio am bartneriaid newydd ar ôl rhai blynyddoedd o ymdrechion paru aflwyddiannus. Mae gan boblogaethau’r Deyrnas Unedig ddiet infertebratau arbenigol, sydd mewn cyferbyniad â dietau hollysol y mwyafrif o frain eraill Prydain. Mae erledigaeth a dwysâd amaethyddol wedi arwain at ostyngiad yn niferoedd y frân goesgoch dros y 150 mlynedd ddiwethaf.

Bele’r Coed (© APCE)

Bele’r Coed (© APCE)

Y Fran Goesgoch (© Jean-Jacques Boujot)

Y Fran Goesgoch (© Jean-Jacques Boujot)

Llinos y Mynydd (Carduelis flavirostris)

Mae Llinos y Mynydd yn llinos frown frith bach sy’n nodweddiadol o gyrion rhostiroedd. Er eu bod yn nythu ar rostiroedd grug, maent yn bwydo ar amrywiaeth o gynefinoedd glaswelltir a byddant yn teithio hyd at 2.5km o gyrion rhostiroedd i gyrraedd bwyd. Gwelwyd gostyngiad dramatig yn niferoedd Llinos y Mynydd drwy’r Deyrnas Unedig ers 1800, â ffactorau megis newidiadau mewn technegau amaethyddol neu losgi grug yn cael dylanwad sylweddol. Yn Eryri, mae Llinos y Mynydd fwyaf tebygol o gael ei gweld yn bwydo yng nghaeau Nant Ffrancon a’r cyffiniau.

Yr Hebog Tramor (Falco peregrinus)

Mae’r Hebog Tramor yn aderyn mawr a phwerus ag adenydd hir, pigfain, a chynffon cymharol fyr o’i gymharu ag adar ysglyfaethus eraill. Er eu bod yn debyg iawn o ran eu pryd a’u gwedd, mae’r Hebog Tramor benywaidd yn aml hyd at 30% yn fwy na’r gwryw. Mae cefn ac adenydd yr hebog yn las / lwyd, gyda mwstas du o gwmpas y pig, sy’n gwrthgyferbynnu gyda’r gwyn ar y wyneb. Deui’r ar eu traws yn aml ar ucheldiroedd Eryri, lle maent yn preswylio gydol y flwyddyn. Disgynnodd eu niferoedd yn sylweddol yn ystod yr 19 ganrif am fod rhai yn eu hela ac oherwydd y cynnydd mewn plaladdwyr amaethyddol. Fodd bynnag, mae’r niferoedd wedi cael eu hadfer yn raddol ers yr 1960au o ganlyniad i’r ataliad ar fath penodol o gemegau mewn plaladdwyr ac yn sgil ymdrechion cynyddol i’w gwarchod.

Llinos y Mynydd (© Mike Pennington)

Llinos y Mynydd (© Mike Pennington)

Yr Hebog Tramor (© Stefan Berndtsson)

Yr Hebog Tramor (© Stefan Berndtsson)

Cregyn Gleision Dŵr Croyw (Margaritifera margaritifera)

Cragen ddu neu frown tywyll sydd gan gregyn dwr gleision, ac mae’n tyfu i hyd at 15cm o hyd ac mae’n adnabyddus am ei berlau lliw tywyll. Mae ganddynt gylch bywyd cymhleth; mae’r larfa sy’n nofio’n rhydd yn datblygu parasitau ar esgyll pysgod, lle maent yn datblygu’n gregyn gleision ifanc sydd wedyn yn gadael y pysgod i setlo ymysg y graen a’r cerrig ar wely’r afon. Mae’n well gan gregyn gleision ddŵr oerach sy’n llifo’n gyflym ac sy’n isel mewn calsiwm. Yn gwbl anhygoel gallant fwy am fwy na 100 mlynedd, sy’n eu gwneud yn un o’r anifeiliaid di asgwrn cefn sy’n byw hiraf ar y Ddaear! Maent yn bwydo trwy amsugno dŵr yr afon a’i hidlo am fan dameidiau, ac mae oedolion yn gallu hidlo mwy o ddŵr yn ddyddiol nac a ddefnyddir gennym ni mewn cawod arferol! Mae’r rhain wedi eu cyfyngu i ogledd a gorllewin Ewrop, - dosbarthiad a gaiff ei adlewyrchu yn yr un modd ym Mhrydain. Ychydig o boblogaethau a wyddom yn eu cylch yn Eryri er bod yna gofnodion hanesyddol yn eu cylch yn dyddio yn ôl dros nifer o ganrifoedd. Gor ymwela ymysg pysgotwyr sy’n bennaf gyfrifol am y gostyngiad anferthol yn eu niferoedd a’r ystod cyfyngedig ohonynt. Rhesymau eraill dros eu dirywiad yw llygredd dŵr a gwaith peirianyddol mewn afonydd megis dyfnhau pyllau. Gall hafau sychach yn sgil newid hinsawdd fod yn fygythiad cynyddol dros y degawdau sydd i ddod.

Malwen Ludiog (Myxas glutinosa)

Malwen fach dwr croyw yw hon, ac mae hi’n un o’r malwod prinaf yn Ewrop. Caiff ei henwi o achos pan mae hi’n actif, mae mantell dryloyw yn cael ei adael ar draws y corff cyfan bron i gyd ynghyd â chorryn y gragen, gan adael dim ond cilgant lle mae wyneb y gragen yn weladwy. Credwyd yn wir nad oedd hon yn bodoli yng Nghymru ond daethpwyd o hyd iddi unwaith eto yn Llyn Tegid yn 1998, mewn man lle nad oedd wedi bodoli ers 1952. Credir yn awr mai hon yw’r unig boblogaeth hyfyw yn Eryri. O ran cynefin y mae malwod gludiog angen dwr glan, llonydd fel llynnoedd neu afonydd. Mae bygythiadau i’w bodolaeth yn cynnwys y ffaith fod y boblogaeth yn ynysig, llygredd, gweithgareddau hamddena cynyddol a newidiadau mewn lefelau dŵr.

Cregyn Gleision Dŵr Croyw (© CNC)

Cregyn Gleision Dŵr Croyw (© CNC)

Malwen Ludiog (© CNC)

Malwen Ludiog (© CNC)

Y Gwyniad (Coregonus pennantii)

Mae’r Coregonus lavaretus yn rhywogaeth o bysgodyn gwyn a adnabyddir yn lleol fel Y gwyniad, a chredir mai dim ond mewn un llyn ar draws Eryri gyfan y mae’n bodoli, a hynny yn Llyn Tegid yn Y Bala. Mae’r boblogaeth hon wedi cael ei hynysu oddi wrth boblogaethau eraill yn y DG ac yn yr Alban ers o leiaf Oes yr Ia, ac o ganlyniad i hynny, mae rhyw gymaint o amrywiaethau genetig rhwng y poblogaethau hyn. Mae’r Gwyniad angen llynnoedd cymharol fawr a dwfn gyda dŵr clir wedi ei ocsigeneiddio yn dda. Fodd bynnag mae’r boblogaeth hon o isrywogaeth yn wynebu bygythiadau fel gorfaethu’r llyn (ewtrofficeiddiad), siltio’r mannau dodwy a chyflwyniad rhywogaethau pysgod newydd i Lyn Tegid. Er na wyddwn beth y maint y boblogaeth o’r Gwyniad o fewn Llyn Tegid, mae arolygon a ymgymerwyd â hwy yn ystod yr 1990’au yn awgrymu fod y llyn yn cefnogi poblogaeth o dros 20,000.

Chwilen yr Wyddfa (Chrysolina cerealis)

Mae gan chwilen fach yr Wyddfa elytra coch, aur, gwyrdd a glas streipiau llachar a dyna pam y’i hadwaenir yn Ewrop fel y chwilen ddeilen Enfys. Maent yn byw ar sgri sy’n sylfaen gyfoethog iddynt, lle mae gweiriach fel gwair plyg cyffredin a pheiswellt y defaid yn tyfu ochr yn ochr gyda phrif ffynhonnell fwyd y chwilen, sef teim gwyllt. Bydd y chwilod sy’n oedolion yn dodwy eu hwyau ar lafnau gwair. Er gwaethaf y ffaith fod cymharol ddigon o gynefin addas o fewn y Parc Cenedlaethol ar eu cyfer, dim ond mewn llond llaw o safleoedd y gallwch ddod o hyd iddi yn Eryri ei hun, ac efallai yng Nghwm Idwal. Mae chwilen yr Wyddfa yn agored i niwed yn sgil ffactorau fel dwysedd pori a newid hinsawdd.

Gwyniad (© APCE)

Gwyniad (© APCE)

Chwilen yr Wyddfa (© Udo Schmidt)

Chwilen yr Wyddfa (© Udo Schmidt)

Lili’r Wyddfa (Lloydia serotina)

Planhigyn bregus, arctig alpaidd sy’n blodeuo yw Lili’r Wyddfa â chanddo ddail tebyg i wair. Er bod dosbarthiad eang ohono mewn rhanbarthau arctig alpaidd, hyd y gwyddom, dim ond yn Eryri y mae’n tyfu yn y DG. Yma maent yn tyfu ar glogwyni sy’n wynebu’r gogledd / gogledd ddwyrain, ac fe ellir dod o hyd iddynt ar ychydig o silffoedd creigiog ac ar wyneb creigiau, y tu hwnt i gyrraedd anifeiliaid sy’n pori. Credir eu bod wedi goroesi ar gopaon mynyddoedd uchel o fewn Eryri ers diwedd oes yr ia, yn y mannau hynny lle na chyrhaeddodd haenau o rew a rhewlifoedd. Mae’r bygythiadau cyfredol i Lili’r Wyddfa yn cynnwys gôr bori gan ddefaid a geifr gwyllt, newid hinsawdd ac erydiad genetig.

Gweirloyn Mawr y Waun (Coenonympha tullia)

Gloyn byw brown lwyd, o faint canolig yw’r Gweirloyn Mawr y Waun sydd yn ddi- ithriad yn cael ei gysylltu gyda chynefin corsiog ond hefyd gyda mawndir diraddedig a rhostir llaith asidig. Mae ganddo batrwm nodweddiadol o ‘oceli’, neu ‘smotiau llygaid’, sydd i’w gweld hawsaf o dan yr adenydd. Gellir gwahaniaethu’r rhywogaeth hwn oddi wrth ei berthynas sydd i’w weld ymhobman, sef Gweirloyn Bychan y Waun, oherwydd mae’r oceli yn amlwg ar hwnnw, ac mae’r maint yn fwy ac mae’n well ganddynt gynefin gwlypach. Yn Eryri mae’r coloniau i gyd ar safleoedd yn yr ucheldir. Gan mwyaf fe ddosberthir y rhain mewn mannau fel cors flanced ond mae un coloni bwysig yn Gors Goch, sy’n gors uwch tua’r de o Lyn Trawsfynydd. Mae presenoldeb Plu’r Gweunydd Unben (Eriophorum vaginatum), a / neu’r Hesgen Wen (Rhynchospora alba), sy’n fwyd blanhigion i’r larfa, ar Blodau’r Grug Deilgores (Erica tetralix) a ffefrir gan yr oedolion ar gyfer casglu neithdar, ac maent yn gyfansoddion hanfodol ar gyfer cynefin y glöyn byw. Mae’r niferoedd wedi disgyn yn sylweddol iawn dros y degawdau diwethaf am fod eu cynefin wedi cael ei ddadebru, safleoedd corsiog wedi cael eu draenio ac yn sgil newidiadau mewn arferion amaethyddol.

Lili'r Wyddfa (© APCE)

Lili'r Wyddfa (© APCE)

Gweirloyn Mawr y Waun (© Ryan Hodnett)

Gweirloyn Mawr y Waun (© Ryan Hodnett)