Awdurdod y Parc

Filmio yn Hafod Eryri

alt=

Mae’n Swyddogol: Eryri - Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol

Printio

4 Rhagfyr 2015

Yn Abergynolwyn heddiw, (dydd Gwener, 4ydd o Ragfyr), cyhoeddir fod Eryri bellach yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol, y degfed drwy’r byd.

Dynodiad yw hwn a roddir gan y Sefydliad Awyr Dywyll Ryngwladol i ychydig o gyrchfannau sydd wedi profi fod ansawdd awyr nos eu hardal yn bwysig a bod ymdrech wirioneddol yn cael ei wneud i leihau llygredd golau. Ar hyn o bryd, mae Gwarchodfeydd Awyr Dywyll Ryngwladol i’w cael mewn 9 lleoliad drwy’r byd ac, yn ychwanegol at y cyhoeddiad hwn am Eryri, o holl wledydd y byd i gyd, Cymru yw’r wlad sydd â’r ganran uchaf o’i hawyr dywyll wedi ei dynodi â statws Awyr Dywyll Ryngwladol.

Ychwanegodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
“Mae derbyn y dynodiad hwn yn newyddion arbennig o dda i drigolion, busnesau, ymwelwyr a bywyd gwyllt Eryri. Yn anffodus, mae’r cyfle i fwynhau awyr a sêr y nos yn prinhau, mae patrymau byw rhai o greaduriaid y nos yn cael eu heffeithio a chan fod llygredd golau ar gynnydd, mae’n cyfrannu at y dirywiadau hyn. Ond, gyda’r dynodiad hwn, gall bywyd gwyllt yr ardal wella, bydd ansawdd yr amgylchedd yn cael ei warchod, bydd atyniad naturiol newydd i ddenu ymwelwyr newydd i Eryri ar gyfnodau tawel o’r flwyddyn, bydd yr economi leol yn gwella a bydd awyr dywyll Eryri yn cael ei diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Heddiw, rydym yn cychwyn ar y daith o adnabod ein hawyr dywyll a datblugu yr holl fanteision sy’n deillio o hynny.”

Wrth wneud y cyhoeddiad o’i bencadlys yn Tucson Arizona, dywedodd John Barentine ar ran Cyfarwyddwyr y Sefydliad Awyr Dywyll,
“Yn ddidwyll, rwy’n llongyfarch Parc Cenedlaethol Eryri ar ennill statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol, y degfed drwy’r byd. Mae Cymru bellach yn arwain y byd yn y canran o’r wlad sy’n mwynhau statws gwarchodedig ei hawyr dywyll: o heddiw, mae’r awyr dywyll sy’n cwmpasu 18% o arwynebedd Cymru wedi ei warchod. ‘Does yr un wlad arall wedi llwyddo gymaint i gydnabod gwerth awyr dywyll naturiol a chymryd camau pendant i’w warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Un o’r swyddogion fu ynghlwm â’r ymgais am statws yw Rhys Owen, Pennaeth Gwasanaeth Amaethyddiaeth, Cadwraeth a Choedlannau’r Awdurdod,
“Mae’r ymateb yr ydan ni wedi ei dderbyn gan gymunedau Eryri wedi bod yn hynod o gadarnhaol, a’r gefnogaeth gan Barc Cenedlaethol y Bannau a’r Sefydliad Awyr Dywyll Ryngwladol yn werthfawr iawn. Wrth dderbyn y statws hwn hefyd, ein gobaith yw nid yn unig gwella bioamrywiaeth a gwarchod amgylchedd ac awyr dywyll yr ardal, ond mi fyddwn ni’n mynd gam ymhellach na’r dynodiadau eraill yn y byd drwy godi ymwybyddiaeth o elfennau sy’n cysylltu’r sêr a’n diwylliant ni, o’r Mabinogi i’r Hen Benillion!”

I gyd-fynd â chyhoeddiad heddiw, bydd cyfle i drigolion ardal Abergynolwyn alw yn y ganolfan pnawn rhwng 2 a 4 i ddysgu mwy am y dynodiad. Hefyd, trefnwyd Noson Gweld Sêr i ddechreuwyr ar lan Llyn Geirionnydd nos Sadwrn nesaf, Rhagfyr 5ed a nos Fawrth, Rhagfyr 14eg ar noson o gawodydd sêr gwib o gytser Yr Efeilliaid bydd cyfle i ddysgu am astroffotograffeg yng Nghroesor. Cynhelir hefyd gystadleuaeth cynllunio poster i hyrwyddo rhinweddau awyr dywyll i ddisgyblion dalgylch Eryri.

Am fwy o fanylion am awyr dywyll Eryri, ewch i www.eryri-npa.gov.uk neu cysylltwch â gweldser@eryri-npa.gov.uk.

Diwedd

Nodyn i Olygyddion

1. Y Gwrchodfeydd Awyr Dywyll Ryngwladol eraill yn y byd yw Aoraki Mackenzie (Seland Newydd), Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Cymru), Parc Cenedlaethol Exmoor (Lloegr), Kerry (Iwerddon), Mont-Mégantic (Québec), Gwarchodfa Natur NamibRand (Namibia), Pic du Midi (Ffrainc), Rhön a Westhavelland (Yr Almaen).
2. Wedi eu dynodi yng Nghymru mae
* Parc Cenedlaethol Eryri – Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol (statws arian)
* Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog - Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol (statws efydd)
* Cwm Elan – Parc Awyr Dywyll Ryngwladol
* Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll
3. Os defnyddir y lluniau ynghlwm, dylid nodi manylion deilydd yr hawlfraint, sef y ffotograffydd, Keith O’Brien.