Cyfle i Dendro - Ail-Hysbyseb Oherwydd Mân Anghysondeb yn yr Hysbyseb Wreiddiol
9 Tachwedd 2018
ADEILADU YSGUBOR YSTLUMOD - HARLECH Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwahodd tendrau gan gontractwyr adeiladu cymwys a phrofiadol i adeiladu ysgubor ystlumod ar dir yng Ngwesty Dewi Sant, HARLECH, Gwynedd.
Mae angen yr ysgubor ystlumod i hwyluso dymchwel adeilad presennol y gwesty; - disgwylir i'r gwaith hwnnw ddechrau ym mis Mawrth 2019. Mae'n rhaid cwblhau'r ysgubor ystlumod erbyn diwedd Chwefror 2019.
Mae dogfennau tendr ar gael ar gais trwy e-bost neu drwy ffonio:
Jamie Roberts BGw (Anrh) Rheolwr Prosiect Cynorthwyol – Mott Macdonald
E-bost: Jamie.Roberts@mottmac.com <mailto:Jamie.Roberts@mottmac.com>
Prif Linell: 01492 534601
Rhaid dychwelyd bidiau tendro wedi'u cwblhau naill ai drwy'r post mewn amlen wedi'i selio a nodi arni 'Cyfrinachol - Tendr - Ysgubor Ystlumod' at sylw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6LF ddim hwyrach na 12.00 o’r gloch ganol dydd, dydd Gwener y 7fed o Ragfyr 2018.
Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn rhwymo ei hun i ddarparu rheswm dros beidio â dethol tendrau aflwyddiannus ac, yn wir, nid yw'n orfodol iddo ymgymryd ag unrhyw dendrau a dderbynnir.