Awdurdod y Parc

Filmio yn Hafod Eryri

alt=

Ffilmio yn y Parc Cenedlaethol Eryri

Mae tirlun, cymunedau a threftadaeth Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn ysbrydoliaeth i feirdd, llenorion, cerddorion ac artistiaid ers canrifoedd lawer ac yn parhau heddiw yn ysbrydoliaeth i’r diwydiannau creadigol.

O dirwedd garw a chreigiog , corsydd eang ac anial, mwynder a thawelwch llynnoedd a choedlannau, ynghyd ag afonydd ac aberoedd godidog, mae gan amrywiaeth tirwedd Eryri rhywbeth i’w gynnig i bob llygad.

Mae’r Awdurdod yn cydnabod pwysigrwydd prosiectau ffilmio neu dynnu ffotograffau yn Eryri. Nid yn unig y daw presenoldeb y diwydiannau hyn â manteision economaidd i’r ardal, ond mae’r cynhyrchiad terfynol yn codi ymwybyddiaeth cynulleidfa eang o rinweddau arbennig Eryri.

Yn wahanol i nifer o Barciau Cenedlaethol eraill yn y byd, perchnogion preifat yw’r rhan fwyaf o berchnogion tir ac eiddo ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Os ydych yn dymuno ffilmio neu dynnu lluniau proffesiynol neu fasnachol ar dir preifat, bydd angen i chi sicrhau caniatad y perchennog yn gyntaf.

Tal y Llyn

Tal y Llyn (© Kevin Richardson)

Lleoliad

Felly, os ydych yn dymuno ffilmio neu dynnu lluniau proffesiynol yn y Parc, dyma’r camau i chi eu dilyn.

Ydych chi’n gwybod lle hoffech chi ei ddefnyddio?

  • Fe gewch chi ffilmio ar unrhyw dir cyhoeddus sy’n cynnwys priffyrdd cyhoeddus. Fodd bynnag, os bydd eich gwaith yn tarfu mewn unrhyw ffordd ar y priffyrdd, gwnewch yn siŵr fod gennych ganiatâd yr awdurdodau priffyrdd perthnasol yn gyntaf. (manylion cyswllt yma)
  • Os ydych am ddefnyddio eiddo’r Awdurdod e.e. un o’n meysydd parcio i barcio cerbydau neu Gopa’r Wyddfa, bydd angen caniatâd yr Awdurdod i chi wneud hyn. (Mwy o fanylion isod)
  • Os ydych yn defnyddio ardal sydd wedi ei ddynodi am resymau arbennig, e.e. Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu Ardal Gadwraeth Arbennig, bydd angen i chi gael caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyntaf. (manylion cyswllt yma)
Y peth pwysicaf i’w gofio: Rhaid cael caniatâd y perchennog yn gyntaf. Bydd angen i chi ddod i gytundeb yn uniongyrchol gyda’r perchennog am unrhyw ffioedd sy’n ddyladwy.

Ydych chi’n chwilio am syniadau am leoliadau?

Cysylltwch â - Arwyn Williams, Swyddog Sgrin Cymru

Ffôn: +44 (0) 300 025 2341

Symudol: +44 (0) 7786 271 680

Ebost: Arwyn.Williams31@llyw.cymru

Ydych chi’n gwybod ym mha ran o’r Parc yr hoffech chi ffilmio, ond angen mwy o wybodaeth?

Cysylltwch â - Llinos Angharad, Swyddog Cyfryngau a Digwyddiadau’r Awdurdod

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth
Gwynedd. LL48 6LF

Ffôn: +44 (0) 1766 772 237

Symudol: +44 (0) 7766 255 509

Ebost: Llinos.Angharad@eryri.llyw.cymru

Ffioedd ar gyfer ffilmio ar eiddo’r Awdurdod

  • Mae’r ffi yn dibynnu ar y math o gynhyrchiad a’r math o ddarlledwr. Fel arfer, byddwn yn codi ffi fesul diwrnod, a gofynnwn am gael ein digolledu os defnyddir unrhyw un o’n meysydd parcio.
  • Os oes angen aelod o staff ar leoliad oherwydd natur y cynhyrchiad, byddwn yn gofyn am ffi am ei amser. Byddwn hefyd yn gofyn am ffi os defnyddir amser aelod o’n staff i chwilio a threfnu lleoliad.
  • Gofynnwn yn garedig i chi brynu a ffynonellu eich bwyd yn lleol pan fyddwch yma ac i fynd â’ch sbwriel adre efo chi.

Am unrhyw wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â Swyddog Cyfryngau a Digwyddiadau’r Awdurdod, Llinos.Angharad@eryri.llyw.cymru

Ar ôl eich ymweliad ag Eryri, cofiwch gadw mewn cysylltiad er mwyn i ni hyrwyddo’ch cynhyrchiad ar ein cyfryngau cymdeithasol!