Awdurdod y Parc

Plas Tan y Bwlch

alt=

Prosiectau Cymunedol

Y Gronfa Prosiectau Bychan

Bwriad y Gronfa Prosiectau Cymunedol Bychan yw cynorthwyo pobl sy’n byw o fewn y Parc Cenedlaethol i ddechrau prosiectau fydd o fudd i’w cymunedau a’u hamgylchedd lleol. Bydd unrhyw brosiectau sy’n gwella’r amgylchedd neu’r gymuned leol ac yn cwrdd â nod ac amcanion Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gymwys i’w hariannu. Cefnogir yn benodol y prosiectau hynny sy’n ceisio cynnwys meini prawf cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Awdurdod y Parc Cenedlaethol mewn ffyrdd y gellir arddangos eu bod yn gynaladwy.

Amodau Ariannu

  • Mae’n rhaid i’r prosiectau fod wedi’u lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri
  • Dylai prosiectau geisio defnyddio deunyddiau a chynnyrch lleol pan fo hynny’n bosibl
  • Dylai prosiectau gael y caniatâd cynllunio perthnasol; pan fo hynny’n angenrheidiol
  • Dylid dangos ymrwymiad i hyfywedd hir dymor y cynllun trwy gyfrwng rheolaeth a chynnal a chadw

Pwy all ymgeisio?

Gall cynghorau cymuned, grwpiau gwirfoddol, grwpiau ieuenctid, grwpiau merched (Sefydliad y Merched, Merched y Wawr) ac ysgolion wneud cais. Nid yw unigolion, busnesau na chyrff statudol yn gymwys i ymgeisio.

Bydd y grant a ddyfernir rhwng £50 a £150 fel rheol ac ni fydd yn fwy na 50% o gyfanswm costau’r prosiect. Gall 50% o gyfran y prosiect gynnwys llafur gwirfoddolwyr a amcangyfrifir gyda chyfradd costau o £6.25 yr awr o ran dibenion y grant.

Sut mae ymgeisio?

Gellir cael ffurflenni cais gan Swyddog Cyswllt Cymuned Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a fydd yn gallu hysbysu ymgeiswyr ac arweinyddion y prosiect ynghylch ffynonellau eraill o arian hefyd. Hysbysir yr ymgeiswyr o fewn tair wythnos i ddweud a ystyrir fod eu cais yn cwrdd â’r meini prawf uchod ai peidio.

Am ragor o fanylion cysylltwch â’r:

Swyddog Cyswllt Cymuned
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd.
LL48 6LF

Ffôn: 01766 772269

Ebost: carys.dafydd@eryri.llyw.cymru