Awdurdod y Parc

Plas Tan y Bwlch

alt=

Hanes Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Daeth Parc Cenedlaethol Eryri i fodolaeth ar 18fed o Hydref 1951 yn dilyn Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Fe gafodd ffiniau’r Parc Cenedlaethol eu dynodi yn 1950 yn dilyn argymhellion Comisiwn y Parc Cenedlaethol lle gwasanaethodd Syr Clough Williams-Ellis fel aelod. Y maen prawf ar gyfer cynnwys tir o fewn y Parc oedd harddwch golygfaol eithriadol a olygai fod rhai ardaloedd trefol ac ardaloedd cynhyrchu llechi wedi eu gwahardd o’r Parc.

Gorchuddia’r Parc gyfanswm o 837 milltir sgwâr ac Eryri oedd y trydydd Parc Cenedlaethol i dderbyn y statws ac y cyntaf yng Nghymru. Yn 1951 derbyniodd Ardal y Llynnoedd, Ardal y Peak a Dartmoor statws fel Parc Cenedlaethol.

Dyddiadau a Digwyddiadau Allweddol

1950's

Daeth trafodaethau ar sut y dylai’r Parc Cenedlaethol weithredu i ben yn 1952 gyda rhai yn awgrymu y dylai bwrdd annibynnol redeg y Parc tra bod eraill yn ffafrio rhoi pwerau i’r Cynghorau Sirol. Cyrhaeddodd y trafodaethau gyfaddawd a sefydlwyd Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol. Dechreuodd y Parc Cenedlaethol weithredu o ddifrif yn 1953 wrth i faterion godi megis diboblogi gwledig, dirywiad y diwydiannau traddodiadol a safonau byw isel. Roedd yn 50au yn gyfnod pwysig yn hanes y Parc Cenedlaethol gan gynnwys dynodi Cwm Idwal fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol a dewis logo i’r Parc Cenedlaethol, sydd mewn defnydd hyd heddiw. Agorwyd Canolfan Wybodaeth cyntaf y Parc yn Llanrwst gyda Dolgellau yn agor yn 1959 ac yn denu 3,000 o ymwelwyr trwy’r haf. Adeiladwyd maes parcio a gwylfan yn Nant Gwynant i geisio lliniaru problemau parcio.

1960au

Sefydlwyd y Gwasanaeth Wardeinio yn 1961 gyda Gwilym Owen a Warren Martin yn cael eu hapwyntio fel y wardeiniaid cyntaf. Penderfynwyd fod Yr Wyddfa i’w dynodi fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol wedi trafodaethau rhwng y Parc Cenedlaethol a’r Warchodaeth Natur. Agorwyd Canolfan Wybodaeth Y Bala a cofnodwyd dros 1,500 o ymwelwyr yn ystod ei thymor cyntaf. Cymerodd y Parc Cenedlaethol gyfrifoldeb am Lyn Tegid ar ôl i Gyngor Sir Meirionydd ei brynu yn 1964. Prynwyd Plas Tan y Bwlch, sef Canolfan Astudiaethau Amgylcheddol y Parc am £30,000 ac yn gynwysiedig roedd gerddi, coedlannau a llynnoedd. Agorwyd Canolfannau Croeso ym Mlaenau Ffestiniog a Llanberis gyda tros 18,000 yn ymweld â chanolfan Llanberis yn ystod ei thymor cyntaf. Prynwyd hefyd yr hen reilffordd rhwng Pont y Wern Ddu a Morfa Mawddach a thros y blynyddoedd datblygwyd y llwybr hwn yn Llwybr Mawddach sydd bellach yn ymestyn i Ddolgellau.

1970au

Yn dilyn ad-drefniant Llywodraeth Leol yn y 70au cynnar, daeth Parc Cenedlaethol Eryri yn adran o Gyngor Sir Gwynedd. Yn 1974 daeth cyfrifoldeb am gynllunio o dan adain y Parc Cenedlaethol gyda unrhyw geisiadau cynllunio y tu allan i’w ffiniau i’w bennu gan Bwyllgor y Parc Cenedlaethol. Prynodd y Parc Cenedlaethol dir mewn nifer o safleoedd poblogaidd er mwyn cynnig gwasanaethau i ymwelwyr gan gynnwys Llyn Cwellyn, Llynnau Mymbyr, Betws y Coed, Beddgelert a Nant Peris. Yn dilyn gwaith adfer agorodd Plas Tan y Bwlch fel canolfan astudio yn 1975. Lansiwyd cynllun bws Sherpa’r Wyddfa i ddatrys problemau parcio mewn safleoedd poblogaidd drwy gludo cerddwyr i fannau cychwyn y teithiau.

1980au

Dechreuodd yr 80au ar nodyn uchel wrth i Bencampwriaeth Canŵio Byd gael ei gynnal yn y Bala gan ddenu pobl o bob cwr o’r byd i Eryri. Roedd hyrwyddo’r Parc Cenedlaethol yn bwysig iawn ac fe aeth y Swyddog Cyswllt Ieuenctid ac Ysgolion â neges y Parc i’r trefi megis Lerpwl, Manceinion a Birmingham. Yn 1983 prynodd Parc Cenedlaethol Eryri’r adeilad ar gopa’r Wyddfa gan y rheilffordd er mwyn rhoi cymorth â’r gwaith atgyweirio cyn ei brydlesu’n ôl i’r cwmni rheilffordd wedi gorffen y gwaith. Meithrinwyd mes o goedlannau Plas Tan y Bwlch a thyfwyd egin-blanhigion a rhoddwyd i Erddi Kew i ymdrin â dinistr corwynt 1987. Yn 1989, i ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad fe seiclodd tîm o Eryri i Chatsworth i ddathlu’r achlysur.

1990au

Gyda Deddf yr Amgylchedd 1995 daeth mwy o gyfrifoldeb ar Barciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr drwy ychwanegu gwarchod a gwella bywyd gwyllt a diwylliant yr ardal a dyletswydd i feithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau yn y Parc. Agorodd swyddfeydd newydd y Parc Cenedlaethol ym Mhenrhyndeudraeth wedi ei adeiladu o ddeunyddiau naturiol. Yn 1996, daeth Eryri yn Awdurdod Lleol annibynnol ac yn Awdurdod Cynllunio Lleol. Ffurfiwyd Partneriaeth Llwybrau’r Ucheldir i ymladd yn erbyn erydiad ar rai o lwybrau mwyaf poblogaidd Eryri gyda’r Wyddfa, Cwm Idwal a Chader Idris yn elwa o’r gwaith.

2000au

Dathlodd Parc Cenedlaethol Eryri ei hanner can mlwyddiant yn 2001 a cynhaliwyd cynhadledd i holl Barciau Cenedlaethol Cymru. I gyd-fynd â’r achlysur, fe gafodd Canolfan Wybodaeth Betws y Coed ei hadnewyddu a’i hagor yn swyddogol ar Hydref 18fed, union 50 mlynedd ers sefydlu’r Parc. Fe brofodd 2001 yn flwyddyn anodd wrth i glwy'r Traed a'r Genau unwaith eto fygwth y diwydiant amaethyddol yn ogystal â’r diwydiant twristiaeth. Cafodd llawer o ddathlu ym mis Mehefin wrth i ledaeniad y clefyd arafu pan agorwyd rhan helaeth o lwybrau Eryri. Roedd y 12eg o Fehefin 2009 yn ddiwrnod pwysig yn hanes Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gyda agoriad swyddogol Hafod Eryri, canolfan ymwelwyr newydd copa'r Wyddfa. Fe agorwyd Hafod Eryri gan y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru ar y pryd. Dyluniwyd y ganolfan gan y pensaer Ray Hole ac fe'i hadeiladwyd i wrthsefyll tywydd garw o wyntoedd 150mya i isafswm tymheredd -20.

Hafod Eryri

Hafod Eryri (© Aneurin Phillips)