Dysgu Am

Addysg

Addysg

Dysgu i Garu Parciau Cenedlaethol

Trefnu ymweliad? Mae’r cyfleoedd addysgiadol gall Staff yr Awdurdod eu cynnig i’w gweld yn y llyfryn yma. Os hoffech fwy o wybodaeth cysylltwch trwy addysg@eryri.llyw.cymru

Er mwyn hwyluso eich ymweliad, os ydych am archebu diwrnod allan yn y maes gyda ni, neu ymweliad a’r Plas, mae ein Holiadur Darparwr Allanol yn EVOLVE fel Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae copi o’n Polisi Gweithio gyda Plant ar gael yma.

Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn â cyrsiau, adnoddau’r adran ac ymweld â’r Ganolfan Astudiaethau Amgylcheddol cofiwch gysylltu â ni ar addysg@eryri.llyw.cymru

Newydd

Dilynwch y cyswllt i weld pecyn Parciau Cenedlaethol Cymru. Dysgwch amdanynt, cymharwch ffeithiau a mwynhewch ein gêm ‘parau’.

« Pecyn Parciau Cenedlaethol Cymru

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnig cefnogaeth ariannol i ysgolion sy’n talu am weithgareddau addysgiadol a gynhelir gan yr Awdurdod, i gyfrannu at gostau teithio i gymryd rhan yn y weithgaredd. Cliciwch ar y ddolen isod

«Cefnogaeth Ariannol ar gyfer Costau Teithio

Ffeiliau Ffeithiau Ffrangeg ac Almaeneg

Bellach mae gennym ffeil ffeithiau am Barc Cenedlaethol Eryri ar gael yn Ffrangeg ac Almaeneg o dan ein hadran Adnoddau.

« Un Parc National : c’est quoi?

« Was ist ein Nationalpark?

(© APCE)

Beth yw Parc Cenedlaethol?

Ardal o dir sy’n cael ei warchod gan ddeddf gwlad yw Parc Cenedlaethol er mwyn hybu’r cyhoedd i fwynhau’r hyn oddi fewn iddo. Mae Parciau Cenedlaethol yn gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a hen ddiwylliant yr ardal. Mae 15 Parc Cenedlaethol ym Mhrydain â Parc Cenedlaethol y Cairngorms yn yr Alban yn cipio teitl y Parc Cenedlaethol mwyaf. Mae’n 1,465 milltir sgwâr, (4,528Km sgwâr) sydd yn fwy na Gwlad Luxemburg. Mae tri Parc Cenedlaethol yng Nghymru, sef Eryri, Arfordir Penfro a’r Bannau Brycheiniog.

Parc Cenedlaethol Eryri

Fe ffurfiwyd Parc Cenedlaethol Eryri yn 1951 ac hwn yw’r un mwyaf yng Nghymru ac yn cwmpasu 823 milltir sgwâr neu 2,176Km sgwâr. Mae Parc Cenedlaethol Eryri;

  • Ddwywaith maint Sir Fôn.
  • Ychydig yn llai na Sir Benfro.
  • Y pedwerydd mwyaf ym Mhrydain ar ôl y Cairngorms, Dyffrynnoedd Swydd Efrog ac Ardal y Llynoedd.
  • Yr un maint â siroedd Caerdydd, Merthyr, Rhondda Cynon Taf, Casnewydd, Caerffili a Thorfaen i gyd â’i gilydd.

Yr Wyddfa

Yma ym Mharc Cenedlaethol Eryri mae’r Wyddfa, sef mynydd mwyaf Cymru a Lloegr ac mae’n sefyll 1,085m uwch lefel y môr. Ar ddiwrnod clir, mae'n bosib gweld cyn belled âc Ardal y Llynoedd ac Iwerddon wrth sefyll ar y copa.

Ymwelwyr Eryri

Mae tua 10 miliwn diwrnod ymweld yn cael ei dreulio yn Eryri bob blwyddyn gyda oddeutu 4.27 miliwn o ymwelwyr yn ymweld â’r ardal.

Llwybrau Cyhoeddus Eryri

Mae tua 1,479 milltir o lwybrau cyhoeddus yma yn Eryri. Maent yn amrywio o lwybrau mynyddig yr ucheldiroedd i deithiau hamdden lawr gwlad. Os rhowch holl lwybrau cyhoeddus Eryri at ei gilydd byddai modd gyrru ar hyd lonydd troellog i’r Bari yn yr Eidal neu fel hed y fran at ffiniau gorllewinol Rwsia!